Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42

Hen Destament

Testament Newydd

Job 36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Aeth Elihu ymlaen i ddweud:

2. “Aros ychydig, imi gael dangos itifod eto eiriau i'w dweud dros Dduw.

3. Yr wyf yn tynnu fy ngwybodaeth o bell,i dystio bod fy Ngwneuthurwr yn gyfiawn.

4. Yn wir nid yw fy ngeiriau'n gelwydd;un diogel ei wybodaeth sydd o'th flaen.

5. Edrych yma, Duw yw'r Un Cadarn;nid yw'n anystyriol, eithr mawr a chadarn yw mewn deall.

6. Nid yw'n gadael i'r drygionus gael byw,ond fe gynnal achos y gwan.

7. Ni thry ei olwg oddi ar y cyfiawn,ond gyda brenhinoedd ar orseddcânt eistedd am byth, a llwyddo.

8. Os rhwymir hwy mewn cadwynau,a'u dal mewn gefynnau gofid,

9. yna fe ddengys iddynt eu gweithreda'u trosedd, am iddynt fod yn ffroenuchel.

10. Rhydd rybudd iddynt am ddisgyblaeth,a dywed wrthynt am droi oddi wrth eu drygioni.

11. Os gwrandawant, a bod yn ufudd,fe gânt dreulio'u dyddiau mewn llwyddiant,a'u blynyddoedd mewn hyfrydwch.

12. Os gwrthodant wrando, difethir hwy gan gleddyf,a darfyddant heb ddysgu dim.

13. “Y mae'r rhai annuwiol yn ennyn dig,ac ni cheisiant gymorth mewn caethiwed.

14. Y maent yn marw'n ifanc,wedi treulio'u bywyd gyda phuteinwyr cysegr.

15. Fe wareda ef y rhai trallodus trwy eu gofid,a'u dysgu trwy orthrymder.

16. “Er iddo geisio dy ddenu oddi wrth ofid,a'th ddwyn o le cyfyng i ehangder,a hulio dy fwrdd â phob braster,

17. yr wyt yn llawn o farn ar y drygionus,wedi dy feddiannu gan farn a chyfiawnder.

18. Gwylia rhag cael dy hudo gan ddigonedd,a phaid â gadael i faint y rhodd dy ddenu.

19. A fydd dy gyfoeth yn dy helpu mewn cyfyngder,neu holl adnoddau dy nerth?

20. Paid â dyheu am y nos,pan symudir pobloedd o'u lle.

21. Gwylia rhag troi at ddrygioni,oherwydd dewisi hyn yn hytrach na gofid.

22. Sylwa mor aruchel yw Duw yn ei nerth;pwy sydd yn dysgu fel y gwna ef?

23. Pwy a wylia arno yn ei ffordd?a phwy a ddywed, ‘Yr wyt yn gwneud yn anghyfiawn’?

24. “Cofia di ganmol ei waith,y gwaith y canodd pobl amdano.

25. Y mae pawb yn edrych arno,ac yn ei weld o bell.

26. Cofia fod Duw yn fawr, y tu hwnt i ddeall,a'i flynyddoedd yn ddirifedi.

27. Y mae'n cronni'r defnynnau dŵr,ac yn eu dihidlo'n law mân fel tarth;

28. fe'u tywelltir o'r cymylau,i ddisgyn yn gawodydd ar bobl.

29. A ddeall neb daeniad y cwmwl,a'r tyrfau sydd yn ei babell?

30. Edrych fel y taena'i darth o'i gwmpas,ac y cuddia waelodion y môr.

31. Â'r rhain y diwalla ef y bobloedd,a rhoi iddynt ddigonedd o fwyd.

32. Deil y mellt yn ei ddwylo,a'u hanelu i gyrraedd eu nod.

33. Dywed ei drwst amdano,fod angerdd ei lid yn erbyn drygioni.”