Hen Destament

Testament Newydd

Job 36:24-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

24. “Cofia di ganmol ei waith,y gwaith y canodd pobl amdano.

25. Y mae pawb yn edrych arno,ac yn ei weld o bell.

26. Cofia fod Duw yn fawr, y tu hwnt i ddeall,a'i flynyddoedd yn ddirifedi.

27. Y mae'n cronni'r defnynnau dŵr,ac yn eu dihidlo'n law mân fel tarth;

28. fe'u tywelltir o'r cymylau,i ddisgyn yn gawodydd ar bobl.

29. A ddeall neb daeniad y cwmwl,a'r tyrfau sydd yn ei babell?

Darllenwch bennod gyflawn Job 36