Hen Destament

Testament Newydd

Job 36:18-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

18. Gwylia rhag cael dy hudo gan ddigonedd,a phaid â gadael i faint y rhodd dy ddenu.

19. A fydd dy gyfoeth yn dy helpu mewn cyfyngder,neu holl adnoddau dy nerth?

20. Paid â dyheu am y nos,pan symudir pobloedd o'u lle.

21. Gwylia rhag troi at ddrygioni,oherwydd dewisi hyn yn hytrach na gofid.

22. Sylwa mor aruchel yw Duw yn ei nerth;pwy sydd yn dysgu fel y gwna ef?

23. Pwy a wylia arno yn ei ffordd?a phwy a ddywed, ‘Yr wyt yn gwneud yn anghyfiawn’?

24. “Cofia di ganmol ei waith,y gwaith y canodd pobl amdano.

25. Y mae pawb yn edrych arno,ac yn ei weld o bell.

26. Cofia fod Duw yn fawr, y tu hwnt i ddeall,a'i flynyddoedd yn ddirifedi.

27. Y mae'n cronni'r defnynnau dŵr,ac yn eu dihidlo'n law mân fel tarth;

28. fe'u tywelltir o'r cymylau,i ddisgyn yn gawodydd ar bobl.

29. A ddeall neb daeniad y cwmwl,a'r tyrfau sydd yn ei babell?

30. Edrych fel y taena'i darth o'i gwmpas,ac y cuddia waelodion y môr.

31. Â'r rhain y diwalla ef y bobloedd,a rhoi iddynt ddigonedd o fwyd.

32. Deil y mellt yn ei ddwylo,a'u hanelu i gyrraedd eu nod.

33. Dywed ei drwst amdano,fod angerdd ei lid yn erbyn drygioni.”

Darllenwch bennod gyflawn Job 36