Hen Destament

Testament Newydd

Job 14:3-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. A roi di sylw i un fel hyn,a'i ddwyn ef i farn gyda thi?

4. Pwy a gaiff lendid allan o aflendid? Neb!

5. Gan fod terfyn i'w ddyddiau,a chan iti rifo'i fisoedd,a gosod iddo ffin nas croesir,

6. yna tro oddi wrtho fel y caiff lonydd,fel gwas cyflog yn mwynhau ei ddiwrnod gwaith.

7. “Er i goeden gael ei thorri,y mae gobaith iddi ailflaguro,ac ni pheidia ei blagur â thyfu.

8. Er i'w gwraidd heneiddio yn y ddaear,ac i'w boncyff farweiddio yn y pridd,

9. pan synhwyra ddŵr fe adfywia,ac fe flagura fel planhigyn ifanc.

10. Ond pan fydd rhywun farw, â'n ddinerth,a phan rydd ei anadl olaf, nid yw'n bod mwyach.

11. Derfydd y dŵr o'r llyn;disbyddir a sychir yr afon;

12. felly'r meidrol, fe orwedd ac ni chyfyd,ni ddeffry tra pery'r nefoedd,ac nis cynhyrfir o'i gwsg.

13. O na bait yn fy nghuddio yn Sheol,ac yn fy nghadw o'r golwg nes i'th lid gilio,a phennu amser arbennig imi, a'm dwyn i gof!

14. (Pan fydd meidrolyn farw, a gaiff ef fyw drachefn?)Yna fe obeithiwn holl ddyddiau fy llafur,hyd nes i'm rhyddhad ddod.

15. Gelwit arnaf, ac atebwn innau;hiraethit am waith dy ddwylo.

Darllenwch bennod gyflawn Job 14