1. “Y mae pob un a anwyd o wraigyn fyr ei oes ac yn llawn helbul.
2. Y mae fel blodeuyn yn tyfu ac yna'n gwywo;diflanna fel cysgod ac nid erys.
3. A roi di sylw i un fel hyn,a'i ddwyn ef i farn gyda thi?
4. Pwy a gaiff lendid allan o aflendid? Neb!
5. Gan fod terfyn i'w ddyddiau,a chan iti rifo'i fisoedd,a gosod iddo ffin nas croesir,
6. yna tro oddi wrtho fel y caiff lonydd,fel gwas cyflog yn mwynhau ei ddiwrnod gwaith.
7. “Er i goeden gael ei thorri,y mae gobaith iddi ailflaguro,ac ni pheidia ei blagur â thyfu.
8. Er i'w gwraidd heneiddio yn y ddaear,ac i'w boncyff farweiddio yn y pridd,
9. pan synhwyra ddŵr fe adfywia,ac fe flagura fel planhigyn ifanc.
10. Ond pan fydd rhywun farw, â'n ddinerth,a phan rydd ei anadl olaf, nid yw'n bod mwyach.
11. Derfydd y dŵr o'r llyn;disbyddir a sychir yr afon;
12. felly'r meidrol, fe orwedd ac ni chyfyd,ni ddeffry tra pery'r nefoedd,ac nis cynhyrfir o'i gwsg.
13. O na bait yn fy nghuddio yn Sheol,ac yn fy nghadw o'r golwg nes i'th lid gilio,a phennu amser arbennig imi, a'm dwyn i gof!
14. (Pan fydd meidrolyn farw, a gaiff ef fyw drachefn?)Yna fe obeithiwn holl ddyddiau fy llafur,hyd nes i'm rhyddhad ddod.
15. Gelwit arnaf, ac atebwn innau;hiraethit am waith dy ddwylo.
16. Yna cedwit gyfrif o'm camre,heb wylio fy mhechod;
17. selid fy nhrosedd mewn cod,a chuddid fy nghamwedd.
18. “Ond, fel y diflanna'r mynydd sy'n llithro,ac fel y symud y graig o'i lle,
19. ac fel y treulir y cerrig gan ddyfroedd,ac y golchir ymaith bridd y ddaear gan lifogydd,felly y gwnei i obaith meidrolyn ddiflannu.
20. Parhei i'w orthrymu nes derfydd;newidi ei wedd, a'i ollwng.
21. Pan anrhydeddir ei blant, ni ŵyr;pan ddarostyngir hwy, ni sylwa.
22. Ei gnawd ei hun yn unig sy'n ei boeni,a'i fywyd ei hun sy'n ei ofidio.”