Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 31:30-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

30. Oherwydd bydd pob un yn marw am ei gamwedd ei hun; y sawl fydd yn bwyta grawnwin surion, ar ei ddannedd ef y bydd dincod.

31. “Y mae'r dyddiau'n dod,” medd yr ARGLWYDD, “y gwnaf gyfamod newydd â thŷ Israel ac â thŷ Jwda.

32. Ni fydd yn debyg i'r cyfamod a wneuthum â'u hynafiaid, y dydd y gafaelais yn eu llaw i'w harwain allan o wlad yr Aifft. Torasant y cyfamod hwnnw, er mai myfi oedd yn arglwydd arnynt,” medd yr ARGLWYDD.

33. “Ond dyma'r cyfamod a wnaf â thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny,” medd yr ARGLWYDD; “rhof fy nghyfraith o'u mewn, ysgrifennaf hi ar eu calon, a byddaf fi'n Dduw iddynt a hwythau'n bobl i mi.

34. Ac ni fyddant mwyach yn dysgu bob un ei gymydog a phob un ei berthynas, gan ddweud, ‘Adnebydd yr ARGLWYDD’; oblegid byddant i gyd yn f'adnabod, o'r lleiaf hyd y mwyaf ohonynt,” medd yr ARGLWYDD, “oherwydd maddeuaf iddynt eu drygioni, ac ni chofiaf eu pechodau byth mwy.”

35. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD,sy'n rhoi'r haul yn oleuni'r dydd,a threfn y lleuad a'r sêr yn oleuni'r nos,sy'n cynhyrfu'r môr nes bod ei donnau'n rhuo(ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw):

36. “Os cilia'r drefn hon o'm gŵydd,” medd yr ARGLWYDD,“yna bydd had Israel yn peidio hyd byth â bod yn genedl ger fy mron.”

37. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Pe gellid mesur y nefoedd fry,a chwilio sylfeini'r ddaear isod,gwrthodwn innau hefyd holl had Israelam yr holl bethau a wnaethant,” medd yr ARGLWYDD.

38. “Y mae'r dyddiau'n dod,” medd yr ARGLWYDD, “yr ailadeiledir y ddinas i'r ARGLWYDD, o dŵr Hananel hyd Borth y Gongl,

39. a gosodir y llinyn mesur eto gyferbyn â hi, dros fryn Gareb, a throi tua Goath.

40. A bydd holl ddyffryn y celanedd a'r lludw, a'r holl feysydd hyd nant Cidron, hyd gongl Porth y Meirch yn y dwyrain, yn sanctaidd i'r ARGLWYDD. Ni ddiwreiddir mo'r ddinas, ac ni ddymchwelir mohoni mwyach hyd byth.”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 31