Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 31:21-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

21. “Cyfod iti arwyddion, gosod iti fynegbyst,astudia'r ffordd yn fanwl, y briffordd a dramwyaist;dychwel, wyryf Israel, dychwel i'th ddinasoedd hyn.

22. Pa hyd y byddi'n ymdroi, ferch anwadal?Y mae'r ARGLWYDD wedi creu peth newydd ar y ddaear,benyw yn amddiffyn gŵr.”

23. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: “Dywedir eto y gair hwn yn nhir Jwda a'i dinasoedd, pan adferaf ei llwyddiant:‘Bendithied yr ARGLWYDD di,gartref cyfiawnder, fynydd sanctaidd.’

24. Yno bydd Jwda a'i dinasoedd yn preswylio ynghyd,yr amaethwyr a bugeiliaid y praidd;

25. paraf wlychu llwnc y sychedig,a digoni pob un sydd yn nychu.”

26. Ar hyn deffroais a sylwi, a melys oedd fy nghwsg imi.

27. “Y mae'r dyddiau'n dod,” medd yr ARGLWYDD, “yr heuaf dŷ Israel a thŷ Jwda â had dyn ac â had anifail.

28. Ac fel y gwyliais drostynt i ddiwreiddio a thynnu i lawr, i ddymchwel a dinistrio a pheri drwg, felly y gwyliaf drostynt i adeiladu a phlannu,” medd yr ARGLWYDD.

29. “Yn y dyddiau hynny, ni ddywedir mwyach,‘Y rhieni fu'n bwyta grawnwin surion,ond ar ddannedd y plant y mae dincod.’

30. Oherwydd bydd pob un yn marw am ei gamwedd ei hun; y sawl fydd yn bwyta grawnwin surion, ar ei ddannedd ef y bydd dincod.

31. “Y mae'r dyddiau'n dod,” medd yr ARGLWYDD, “y gwnaf gyfamod newydd â thŷ Israel ac â thŷ Jwda.

32. Ni fydd yn debyg i'r cyfamod a wneuthum â'u hynafiaid, y dydd y gafaelais yn eu llaw i'w harwain allan o wlad yr Aifft. Torasant y cyfamod hwnnw, er mai myfi oedd yn arglwydd arnynt,” medd yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 31