Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 31:10-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. “Clywch air yr ARGLWYDD, genhedloedd;cyhoeddwch yn yr ynysoedd pell, a dweud,‘Yr un a wasgarodd Israel fydd yn ei gasglu;bydd yn gwylio drosto fel bugail dros ei braidd.’

11. Canys yr ARGLWYDD a waredodd Jacob,a'i achub o afael un trech nag ef.

12. Dônt a chanu yn uchelder Seion;ymddisgleiriant gan ddaioni'r ARGLWYDD,oherwydd yr ŷd a'r gwin a'r olew,ac oherwydd epil y defaid a'r gwartheg.A bydd eu bywyd fel gardd ddyfradwy, heb ddim nychdod mwyach.

13. Yna fe lawenha'r ferch mewn dawns,a'r gwŷr ifainc a'r hen hefyd ynghyd;trof eu galar yn orfoledd a diddanaf hwy;gwnaf eu llawenydd yn fwy na'u gofid.

14. Diwallaf yr offeiriaid â braster,a digonir fy mhobl â'm daioni,” medd yr ARGLWYDD.

15. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Clywir llef yn Rama,galarnad ac wylofain,Rachel yn wylo am ei phlant,yn gwrthod ei chysuro am ei phlant,oherwydd nad ydynt mwy.”

16. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Paid ag wylo, ymatal rhag dagrau,oherwydd y mae elw i'th lafur,” medd yr ARGLWYDD;“dychwelant o wlad y gelyn.

17. Y mae gobaith iti yn y diwedd,” medd yr ARGLWYDD;“fe ddychwel dy blant i'w bro eu hunain.

18. Gwrandewais yn astud ar Effraim yn cwyno,‘Disgyblaist fi fel llo heb ei ddofi, a chymerais fy nisgyblu;adfer fi, imi ddychwelyd,oherwydd ti yw'r ARGLWYDD fy Nuw.

19. Wedi imi droi, bu edifar gennyf;wedi i mi ddysgu, trewais fy nghlun;cefais fy nghywilyddio a'm gwaradwyddo,gan ddwyn gwarth fy ieuenctid.’

20. “A yw Effraim yn fab annwyl, ac yn blentyn hyfryd i mi?Bob tro y llefaraf yn ei erbyn, parhaf i'w gofio o hyd.Y mae fy enaid yn dyheu amdano, ni allaf beidio â thrugarhau wrtho,” medd yr ARGLWYDD.

21. “Cyfod iti arwyddion, gosod iti fynegbyst,astudia'r ffordd yn fanwl, y briffordd a dramwyaist;dychwel, wyryf Israel, dychwel i'th ddinasoedd hyn.

22. Pa hyd y byddi'n ymdroi, ferch anwadal?Y mae'r ARGLWYDD wedi creu peth newydd ar y ddaear,benyw yn amddiffyn gŵr.”

23. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: “Dywedir eto y gair hwn yn nhir Jwda a'i dinasoedd, pan adferaf ei llwyddiant:‘Bendithied yr ARGLWYDD di,gartref cyfiawnder, fynydd sanctaidd.’

24. Yno bydd Jwda a'i dinasoedd yn preswylio ynghyd,yr amaethwyr a bugeiliaid y praidd;

25. paraf wlychu llwnc y sychedig,a digoni pob un sydd yn nychu.”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 31