1. “Yr adeg honno,” medd yr ARGLWYDD, “byddaf fi'n Dduw i holl deuluoedd Israel, a byddant hwy'n bobl i mi.”
2. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Cafodd y bobl a osgôdd y cleddyf ffafr yn yr anialwch;tramwyodd Israel i gael llonydd iddo'i hun.
3. Erstalwm ymddangosodd yr ARGLWYDD iddo.Cerais di â chariad diderfyn;am hynny parheais yn ffyddlon iti.
4. Adeiladaf di drachefn, y wyryf Israel, a chei dy adeiladu;cei ymdrwsio eto â'th dympanau, a mynd allan yn llawen i'r ddawns.
5. Cei blannu eto winllannoedd ar fryniau Samaria,a'r rhai sy'n plannu fydd yn cymryd y ffrwyth.
6. Oherwydd daw dydd pan fydd gwylwyr ym Mynydd Effraim yn galw,‘Codwch, dringwn i Seion at yr ARGLWYDD ein Duw.’ ”
7. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Canwch orfoledd i Jacob, a chodwch gân i'r bennaf o'r cenhedloedd;cyhoeddwch, molwch a dywedwch,‘Gwaredodd yr ARGLWYDD dy bobl, sef gweddill Israel.’
8. “Ie, dygaf hwy o dir y gogledd, casglaf hwy o bellafoedd byd;gyda hwy daw'r dall a'r cloff, y feichiog ynghyd â'r hon sy'n esgor;yn gynulliad mawr fe ddychwelant yma.