1. “Yr adeg honno,” medd yr ARGLWYDD, “byddaf fi'n Dduw i holl deuluoedd Israel, a byddant hwy'n bobl i mi.”
2. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Cafodd y bobl a osgôdd y cleddyf ffafr yn yr anialwch;tramwyodd Israel i gael llonydd iddo'i hun.
3. Erstalwm ymddangosodd yr ARGLWYDD iddo.Cerais di â chariad diderfyn;am hynny parheais yn ffyddlon iti.
4. Adeiladaf di drachefn, y wyryf Israel, a chei dy adeiladu;cei ymdrwsio eto â'th dympanau, a mynd allan yn llawen i'r ddawns.
5. Cei blannu eto winllannoedd ar fryniau Samaria,a'r rhai sy'n plannu fydd yn cymryd y ffrwyth.
6. Oherwydd daw dydd pan fydd gwylwyr ym Mynydd Effraim yn galw,‘Codwch, dringwn i Seion at yr ARGLWYDD ein Duw.’ ”
7. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Canwch orfoledd i Jacob, a chodwch gân i'r bennaf o'r cenhedloedd;cyhoeddwch, molwch a dywedwch,‘Gwaredodd yr ARGLWYDD dy bobl, sef gweddill Israel.’
8. “Ie, dygaf hwy o dir y gogledd, casglaf hwy o bellafoedd byd;gyda hwy daw'r dall a'r cloff, y feichiog ynghyd â'r hon sy'n esgor;yn gynulliad mawr fe ddychwelant yma.
9. Dônt dan wylo, ond arweiniaf fi hwy â thosturi,tywysaf hwy wrth ffrydiau dyfroeddar ffordd union na faglant ynddi.Yr wyf yn dad i Israel, ac Effraim yw fy nghyntafanedig.
10. “Clywch air yr ARGLWYDD, genhedloedd;cyhoeddwch yn yr ynysoedd pell, a dweud,‘Yr un a wasgarodd Israel fydd yn ei gasglu;bydd yn gwylio drosto fel bugail dros ei braidd.’
11. Canys yr ARGLWYDD a waredodd Jacob,a'i achub o afael un trech nag ef.
12. Dônt a chanu yn uchelder Seion;ymddisgleiriant gan ddaioni'r ARGLWYDD,oherwydd yr ŷd a'r gwin a'r olew,ac oherwydd epil y defaid a'r gwartheg.A bydd eu bywyd fel gardd ddyfradwy, heb ddim nychdod mwyach.
13. Yna fe lawenha'r ferch mewn dawns,a'r gwŷr ifainc a'r hen hefyd ynghyd;trof eu galar yn orfoledd a diddanaf hwy;gwnaf eu llawenydd yn fwy na'u gofid.