Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 25:2-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. Llefarodd Jeremeia y proffwyd wrth holl bobl Jwda a holl breswylwyr Jerwsalem, gan ddweud,

3. “o'r drydedd flwyddyn ar ddeg o deyrnasiad Joseia fab Amon, brenin Jwda, hyd heddiw, hynny yw, tair blynedd ar hugain, daeth gair yr ARGLWYDD ataf a lleferais wrthych yn gyson, ond ni wrandawsoch.

4. Anfonodd yr ARGLWYDD ei holl weision y proffwydi atoch yn gyson; ond ni wrandawsoch, na gogwyddo clust i wrando,

5. pan ddywedwyd, ‘Dychwelwch, yn awr, bob un o'i ffordd annuwiol, ac o'ch gweithredoedd drwg, a thrigwch yn y tir a roes yr ARGLWYDD i chwi ac i'ch hynafiaid byth ac yn dragywydd.

6. Peidiwch â mynd ar ôl duwiau eraill, i'w gwasanaethu a'u haddoli, a pheidiwch â'm digio â gwaith eich dwylo; yna ni wnaf niwed i chwi.’

7. Ond ni wrandawsoch arnaf,” medd yr ARGLWYDD, “ond fy nigio â gwaith eich dwylo, er niwed i chwi.

8. “Am hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Oherwydd na wrandawsoch ar fy ngeiriau,

9. yr wyf yn anfon am holl lwythau'r gogledd,’ medd yr ARGLWYDD, ‘ac am Nebuchadnesar brenin Babilon, fy ngwas, a'u dwyn yn erbyn y wlad hon a'i phreswylwyr, ac yn erbyn yr holl genhedloedd hyn oddi amgylch; a difrodaf hwy a'u gosod yn ddychryn ac yn syndod ac yn anghyfanedd-dra hyd byth.

10. Ataliaf o'u plith bob sain hyfryd a llawen, sain priodfab a phriodferch, sain meini melin yn malu, a golau llusern.

11. Bydd yr holl wlad hon yn ddiffaith ac yn ddychryn, a bydd y cenhedloedd hyn yn gwasanaethu brenin Babilon am ddeng mlynedd a thrigain.

12. Ar ddiwedd y deng mlynedd a thrigain hyn cosbaf frenin Babilon a'r genedl honno am eu camwedd,’ medd yr ARGLWYDD, ‘a chosbaf wlad y Caldeaid, a gwnaf hi yn anghyfannedd hyd byth.

13. Dygaf ar y wlad honno yr holl eiriau a leferais yn ei herbyn, a phob peth sydd wedi ei ysgrifennu yn y llyfr hwn, pob peth a broffwydodd Jeremeia yn erbyn yr holl genhedloedd.

14. Canys fe'u caethiwir hwythau gan genhedloedd cryfion a brenhinoedd mawrion, ac felly y talaf iddynt yn ôl eu gweithredoedd a gwaith eu dwylo.’ ”

15. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, wrthyf: “Cymer y cwpan hwn o win llidiog o'm llaw, a rho ef i'w yfed i'r holl genhedloedd yr anfonaf di atynt.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 25