Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52

Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Y Gelyn o'r Gogledd

1. Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia am holl bobl Jwda ym mhedwaredd flwyddyn Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda, a blwyddyn gyntaf Nebuchadnesar brenin Babilon.

2. Llefarodd Jeremeia y proffwyd wrth holl bobl Jwda a holl breswylwyr Jerwsalem, gan ddweud,

3. “o'r drydedd flwyddyn ar ddeg o deyrnasiad Joseia fab Amon, brenin Jwda, hyd heddiw, hynny yw, tair blynedd ar hugain, daeth gair yr ARGLWYDD ataf a lleferais wrthych yn gyson, ond ni wrandawsoch.

4. Anfonodd yr ARGLWYDD ei holl weision y proffwydi atoch yn gyson; ond ni wrandawsoch, na gogwyddo clust i wrando,

5. pan ddywedwyd, ‘Dychwelwch, yn awr, bob un o'i ffordd annuwiol, ac o'ch gweithredoedd drwg, a thrigwch yn y tir a roes yr ARGLWYDD i chwi ac i'ch hynafiaid byth ac yn dragywydd.

6. Peidiwch â mynd ar ôl duwiau eraill, i'w gwasanaethu a'u haddoli, a pheidiwch â'm digio â gwaith eich dwylo; yna ni wnaf niwed i chwi.’

7. Ond ni wrandawsoch arnaf,” medd yr ARGLWYDD, “ond fy nigio â gwaith eich dwylo, er niwed i chwi.

8. “Am hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Oherwydd na wrandawsoch ar fy ngeiriau,

9. yr wyf yn anfon am holl lwythau'r gogledd,’ medd yr ARGLWYDD, ‘ac am Nebuchadnesar brenin Babilon, fy ngwas, a'u dwyn yn erbyn y wlad hon a'i phreswylwyr, ac yn erbyn yr holl genhedloedd hyn oddi amgylch; a difrodaf hwy a'u gosod yn ddychryn ac yn syndod ac yn anghyfanedd-dra hyd byth.

10. Ataliaf o'u plith bob sain hyfryd a llawen, sain priodfab a phriodferch, sain meini melin yn malu, a golau llusern.

11. Bydd yr holl wlad hon yn ddiffaith ac yn ddychryn, a bydd y cenhedloedd hyn yn gwasanaethu brenin Babilon am ddeng mlynedd a thrigain.

12. Ar ddiwedd y deng mlynedd a thrigain hyn cosbaf frenin Babilon a'r genedl honno am eu camwedd,’ medd yr ARGLWYDD, ‘a chosbaf wlad y Caldeaid, a gwnaf hi yn anghyfannedd hyd byth.

13. Dygaf ar y wlad honno yr holl eiriau a leferais yn ei herbyn, a phob peth sydd wedi ei ysgrifennu yn y llyfr hwn, pob peth a broffwydodd Jeremeia yn erbyn yr holl genhedloedd.

14. Canys fe'u caethiwir hwythau gan genhedloedd cryfion a brenhinoedd mawrion, ac felly y talaf iddynt yn ôl eu gweithredoedd a gwaith eu dwylo.’ ”

Barn Duw ar y Cenhedloedd

15. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, wrthyf: “Cymer y cwpan hwn o win llidiog o'm llaw, a rho ef i'w yfed i'r holl genhedloedd yr anfonaf di atynt.

16. Byddant yn ei yfed, ac yn gwegian, ac yn gwallgofi oherwydd y cleddyf a anfonaf i'w plith.”

17. Cymerais y cwpan o law yr ARGLWYDD, a diodais yr holl genhedloedd yr anfonodd yr ARGLWYDD fi atynt:

18. Jerwsalem a dinasoedd Jwda, ei brenhinoedd a'i thywysogion, i'w gwneud yn ddiffeithwch, yn ddychryn, yn syndod, ac yn felltith, fel y maent heddiw;

19. hefyd Pharo brenin yr Aifft, a'i weision a'i dywysogion a'i holl bobl,

20. a'u holl estroniaid; holl frenhinoedd gwlad Us, a holl frenhinoedd gwlad y Philistiaid, ac Ascalon a Gasa ac Ecron a gweddill Asdod;

21. Edom a Moab a phobl Ammon;

22. holl frenhinoedd Tyrus a holl frenhinoedd Sidon, a brenhinoedd yr ynysoedd dros y môr;

23. Dedan a Tema a Bus; pawb sydd â'u talcennau'n foel;

24. holl frenhinoedd Arabia, a holl frenhinoedd y llwythau cymysg sy'n trigo yn yr anialwch;

25. holl frenhinoedd Simri, a holl frenhinoedd Elam, a holl frenhinoedd Media;

26. holl frenhinoedd y gogledd, yn agos ac ymhell, y naill ar ôl y llall, a holl deyrnasoedd byd ar wyneb y ddaear; brenin Sesach a gaiff yfed ar eu hôl hwy.

27. “Dywedi wrthynt, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Yfwch, a meddwi a chyfogi, a syrthio heb godi, oherwydd y cleddyf a anfonaf i'ch plith.’

28. Os gwrthodant gymryd y cwpan o'th law i'w yfed, yna dywedi wrthynt, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Y mae'n rhaid ei yfed.

29. Canys wele, yr wyf yn dechrau niweidio'r ddinas y galwyd fy enw arni; a ddihangwch chwi? Ni ddihangwch; canys yr wyf yn galw am gleddyf yn erbyn holl breswylwyr y wlad, medd ARGLWYDD y Lluoedd.’

30. Proffwydi dithau yn eu herbyn yr holl eiriau hyn a dweud,”“Y mae'r ARGLWYDD yn rhuo o'r uchelder;o'i drigfan sanctaidd fe gyfyd ei lef;rhua'n chwyrn yn erbyn ei drigle;gwaedda, fel gwaedd rhai yn sathru grawnwin,yn erbyn holl breswylwyr y tir.

31. Atseinia'r twrf hyd eithafoedd byd,canys bydd Duw'n dwyn achos yn erbyn y cenhedloedd,ac yn mynd i farn yn erbyn pob cnawd,ac yn rhoi'r drygionus i'r cleddyf, medd yr ARGLWYDD.”

32. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd:“Y mae dinistr ar gerdded allan o'r naill genedl i'r llall;cyfyd tymestl fawr o eithafoedd byd.”

33. “Y dydd hwnnw, bydd lladdedigion yr ARGLWYDD yn ymestyn o'r naill gwr i'r ddaear hyd y llall; ni fydd galaru amdanynt, ac nis cesglir na'u claddu; byddant yn dom ar wyneb y ddaear.”

34. Udwch, fugeiliaid, gwaeddwch;ymdreiglwch yn y lludw, chwi bendefigion y praidd;canys cyflawnwyd y dyddiau i'ch lladd a'ch gwasgaru,ac fe gwympwch fel llydnod dethol.

35. Collir lloches gan y bugeiliaid,a dihangfa gan bendefigion y praidd.

36. Clyw gri'r bugeiliaid,a nâd pendefigion y praidd!Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn difa'u porfa;

37. dryllir corlannau heddychlon gan lid digofaint yr ARGLWYDD.

38. Fel llew, gadawodd ei loches;aeth eu tir yn anghyfannedd gan lid gorthrymwr,a llid digofaint yr ARGLWYDD.