Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 25:12-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. Ar ddiwedd y deng mlynedd a thrigain hyn cosbaf frenin Babilon a'r genedl honno am eu camwedd,’ medd yr ARGLWYDD, ‘a chosbaf wlad y Caldeaid, a gwnaf hi yn anghyfannedd hyd byth.

13. Dygaf ar y wlad honno yr holl eiriau a leferais yn ei herbyn, a phob peth sydd wedi ei ysgrifennu yn y llyfr hwn, pob peth a broffwydodd Jeremeia yn erbyn yr holl genhedloedd.

14. Canys fe'u caethiwir hwythau gan genhedloedd cryfion a brenhinoedd mawrion, ac felly y talaf iddynt yn ôl eu gweithredoedd a gwaith eu dwylo.’ ”

15. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, wrthyf: “Cymer y cwpan hwn o win llidiog o'm llaw, a rho ef i'w yfed i'r holl genhedloedd yr anfonaf di atynt.

16. Byddant yn ei yfed, ac yn gwegian, ac yn gwallgofi oherwydd y cleddyf a anfonaf i'w plith.”

17. Cymerais y cwpan o law yr ARGLWYDD, a diodais yr holl genhedloedd yr anfonodd yr ARGLWYDD fi atynt:

18. Jerwsalem a dinasoedd Jwda, ei brenhinoedd a'i thywysogion, i'w gwneud yn ddiffeithwch, yn ddychryn, yn syndod, ac yn felltith, fel y maent heddiw;

19. hefyd Pharo brenin yr Aifft, a'i weision a'i dywysogion a'i holl bobl,

20. a'u holl estroniaid; holl frenhinoedd gwlad Us, a holl frenhinoedd gwlad y Philistiaid, ac Ascalon a Gasa ac Ecron a gweddill Asdod;

21. Edom a Moab a phobl Ammon;

22. holl frenhinoedd Tyrus a holl frenhinoedd Sidon, a brenhinoedd yr ynysoedd dros y môr;

23. Dedan a Tema a Bus; pawb sydd â'u talcennau'n foel;

24. holl frenhinoedd Arabia, a holl frenhinoedd y llwythau cymysg sy'n trigo yn yr anialwch;

25. holl frenhinoedd Simri, a holl frenhinoedd Elam, a holl frenhinoedd Media;

26. holl frenhinoedd y gogledd, yn agos ac ymhell, y naill ar ôl y llall, a holl deyrnasoedd byd ar wyneb y ddaear; brenin Sesach a gaiff yfed ar eu hôl hwy.

27. “Dywedi wrthynt, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Yfwch, a meddwi a chyfogi, a syrthio heb godi, oherwydd y cleddyf a anfonaf i'ch plith.’

28. Os gwrthodant gymryd y cwpan o'th law i'w yfed, yna dywedi wrthynt, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Y mae'n rhaid ei yfed.

29. Canys wele, yr wyf yn dechrau niweidio'r ddinas y galwyd fy enw arni; a ddihangwch chwi? Ni ddihangwch; canys yr wyf yn galw am gleddyf yn erbyn holl breswylwyr y wlad, medd ARGLWYDD y Lluoedd.’

30. Proffwydi dithau yn eu herbyn yr holl eiriau hyn a dweud,”“Y mae'r ARGLWYDD yn rhuo o'r uchelder;o'i drigfan sanctaidd fe gyfyd ei lef;rhua'n chwyrn yn erbyn ei drigle;gwaedda, fel gwaedd rhai yn sathru grawnwin,yn erbyn holl breswylwyr y tir.

31. Atseinia'r twrf hyd eithafoedd byd,canys bydd Duw'n dwyn achos yn erbyn y cenhedloedd,ac yn mynd i farn yn erbyn pob cnawd,ac yn rhoi'r drygionus i'r cleddyf, medd yr ARGLWYDD.”

32. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd:“Y mae dinistr ar gerdded allan o'r naill genedl i'r llall;cyfyd tymestl fawr o eithafoedd byd.”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 25