1. Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia am holl bobl Jwda ym mhedwaredd flwyddyn Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda, a blwyddyn gyntaf Nebuchadnesar brenin Babilon.
2. Llefarodd Jeremeia y proffwyd wrth holl bobl Jwda a holl breswylwyr Jerwsalem, gan ddweud,
3. “o'r drydedd flwyddyn ar ddeg o deyrnasiad Joseia fab Amon, brenin Jwda, hyd heddiw, hynny yw, tair blynedd ar hugain, daeth gair yr ARGLWYDD ataf a lleferais wrthych yn gyson, ond ni wrandawsoch.
4. Anfonodd yr ARGLWYDD ei holl weision y proffwydi atoch yn gyson; ond ni wrandawsoch, na gogwyddo clust i wrando,
5. pan ddywedwyd, ‘Dychwelwch, yn awr, bob un o'i ffordd annuwiol, ac o'ch gweithredoedd drwg, a thrigwch yn y tir a roes yr ARGLWYDD i chwi ac i'ch hynafiaid byth ac yn dragywydd.
6. Peidiwch â mynd ar ôl duwiau eraill, i'w gwasanaethu a'u haddoli, a pheidiwch â'm digio â gwaith eich dwylo; yna ni wnaf niwed i chwi.’
7. Ond ni wrandawsoch arnaf,” medd yr ARGLWYDD, “ond fy nigio â gwaith eich dwylo, er niwed i chwi.