Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 10:14-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. Ynfyd yw pob un, a heb wybodaeth.Cywilyddir pob eurych gan ei eilun,canys celwydd yw ei ddelwau tawdd,ac nid oes anadl ynddynt.

15. Oferedd ŷnt, a gwaith i'w wawdio;yn amser eu cosbi fe'u difethir.

16. Nid yw Duw Jacob fel y rhain,oherwydd ef yw lluniwr pob peth,ac Israel yw ei lwyth dewisol. ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw.

17. Casgla dy bwn a dos allan o'r wlad,ti, yr hon sy'n trigo dan warchae.

18. Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Dyma fi'n taflu allan drigolion y wlad y tro hwn;dygaf arnynt gyfyngder, ac fe deimlant hynny.”

19. Gwae fi am fy mriw! Y mae fy archoll yn ddwfn,ond dywedais, “Dyma ofid yn wir, a rhaid i mi ei oddef.”

20. Drylliwyd fy mhabell, torrwyd fy rhaffau i gyd;aeth fy mhlant oddi wrthyf, nid oes neb ohonynt mwy;nid oes neb a estyn fy mhabell eto, na chodi fy llenni.

21. Aeth y bugeiliaid yn ynfyd;nid ydynt yn ceisio'r ARGLWYDD;am hynny nid ydynt yn llwyddo, ac y mae eu holl braidd ar wasgar.

22. Clyw! Neges! Wele, y mae'n dod!Cynnwrf mawr o dir y gogledd,i wneud dinasoedd Jwda yn ddiffeithwchac yn drigfa bleiddiaid.

23. Gwn, O ARGLWYDD, nad eiddo neb ei ffordd;ni pherthyn i'r teithiwr drefnu ei gamre.

24. Cosba fi, ARGLWYDD, ond mewn barn,nid yn ôl dy lid, rhag iti fy niddymu.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 10