1. Clywch y gair a lefarodd yr ARGLWYDD wrthych, dŷ Israel.
2. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Peidiwch â dysgu ffordd y cenhedloedd,na chael eich dychryn gan arwyddion y nefoedd,fel y dychrynir y cenhedloedd ganddynt.
3. Y mae arferion y bobloedd fel eilun—pren wedi ei gymynu o'r goedwig,gwaith dwylo saer â bwyell;
4. ac wedi iddynt ei harddu ag arian ac aur,y maent yn ei sicrhau â morthwyl a hoelion, rhag iddo symud.
5. Fel bwgan brain mewn gardd cucumerau, ni all eilunod lefaru;rhaid eu cludo am na allant gerdded.Peidiwch â'u hofni; ni allant wneud niwed,na gwneud da chwaith.”
6. Nid oes neb fel tydi, ARGLWYDD; mawr wyt,mawr yw dy enw mewn nerth.
7. Pwy ni'th ofna, Frenin y cenhedloedd?Hyn sy'n gweddu i ti.Canys ymhlith holl ddoethion y cenhedloedd,ac ymysg eu holl deyrnasoedd, nid oes neb fel tydi.
8. Y maent bob un yn ddwl ac ynfyd,wedi eu dysgu gan eilunod o bren!
9. Dygir arian gyr o Tarsis, ac aur o Uffas,gwaith y saer a dwylo'r eurych;a'u gwisg o ddeunydd fioled a phorffor—gwaith crefftwyr ydyw i gyd.
10. Ond yr ARGLWYDD yw'r gwir Dduw;ef yw'r Duw byw a'r brenin tragwyddol;y mae'r ddaear yn crynu rhag ei lid,ac ni all y cenhedloedd ddioddef ei ddicter.
11. Fel hyn y dywedwch wrthynt: “Y duwiau na wnaethant y nefoedd a'r ddaear, fe gânt eu difa o'r ddaear ac oddi tan y nefoedd.”
12. Gwnaeth ef y ddaear trwy ei nerth,sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb,estynnodd y nefoedd trwy ei ddeall.
13. Pan rydd ei lais, daw twrf dyfroedd yn y nefoedd,fe bair godi tarth o eithafoedd y ddaear.Gwna fellt gyda'r glaw, a dwg allan wyntoedd o'i ystordai.
14. Ynfyd yw pob un, a heb wybodaeth.Cywilyddir pob eurych gan ei eilun,canys celwydd yw ei ddelwau tawdd,ac nid oes anadl ynddynt.