Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 9:7-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Daeth dyddiau cosbi,dyddiau i dalu'r pwyth,a darostyngir Israel.“Ffŵl yw'r proffwyd,gwallgof yw gŵr yr ysbryd.”O achos dy ddrygioni mawrbydd dy elyniaeth yn fawr.

8. Y mae'r proffwyd yn wyliwr i Effraim, pobl fy Nuw,ond y mae magl heliwr ar ei holl ffyrdda gelyniaeth yn nhŷ ei Dduw.

9. Syrthiasant yn ddwfn i lygredd,fel yn nyddiau Gibea.Fe gofia Duw eu drygionia chosbi eu pechodau.

10. “Fel grawnwin yn yr anialwch y cefais hyd i Israel;fel blaenffrwyth ar ffigysbren newydd y gwelais eich tadau.Ond aethant i Baal-peor,a'u rhoi eu hunain i warth eilun;ac aethant mor ffiaidd â gwrthrych eu serch.

11. Bydd gogoniant Effraim yn ehedeg ymaith fel aderyn;ni bydd na geni, na chario plant na beichiogi.

12. Pe magent blant,fe'u gwnawn yn llwyr amddifad.Gwae hwy pan ymadawaf oddi wrthynt!

13. Yn ôl a welais, bydd Effraim yn gwneud ei feibion yn ysglyfaeth,ac yn dwyn ei blant allan i'r lladdfa.”

Darllenwch bennod gyflawn Hosea 9