Hen Destament

Testament Newydd

Habacuc 2:11-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Oherwydd gwaedda'r garreg o'r mur,ac etyb trawst o'r gwaith coed.

12. Gwae'r sawl sy'n adeiladu dinas trwy waed,ac yn sylfaenu dinas ar anghyfiawnder.

13. Wele, onid oddi wrth ARGLWYDD y Lluoedd y daw hyn:fod pobloedd yn llafurio i ddim ond tân,a chenhedloedd yn ymdrechu i ddim o gwbl?

14. Oherwydd llenwir y ddaear â gwybodaeth o ogoniant yr ARGLWYDD,fel y mae'r dyfroedd yn llenwi'r môr.

15. Gwae'r sawl sy'n gwneud i'w gymydog yfed o gwpan ei lid,ac yn ei feddwi er mwyn cael gweld ei noethni.

16. Byddi'n llawn o warth, ac nid o ogoniant.Yf dithau nes y byddi'n simsan.Atat ti y daw cwpan deheulaw'r ARGLWYDD,a bydd dy warth yn fwy na'th ogoniant.

17. Bydd y trais a wnaed yn Lebanon yn dy oresgyn,a dinistr yr anifeiliaid yn dy arswydo,o achos y tywallt gwaed a'r anrheithio ar y tira'r ddinas a'i holl drigolion.

18. Pa fudd i'w wneuthurwr yw'r eilun a luniodd?Nid yw ond delw dawdd a dysgwr celwydd.Er bod y gwneuthurwr yn ymddiried yn ei waith,nid yw'n gwneud ond delwau mud.

19. Gwae'r sawl a ddywed wrth bren, “Deffro”,ac wrth garreg fud, “Ymysgwyd”.Y mae wedi ei amgylchu ag aur ac arian,ond nid oes dim anadl ynddo.

20. Ond y mae'r ARGLWYDD yn ei deml sanctaidd;bydded i'r holl ddaear ymdawelu ger ei fron.

Darllenwch bennod gyflawn Habacuc 2