22. Dyna feibion Rachel, pedwar ar ddeg i gyd, wedi eu geni i Jacob.
23. Mab Dan: Husim.
24. Meibion Nafftali: Jahseel, Guni, Jeser a Silem.
25. Dyma feibion Bilha, a roddodd Laban i Rachel ei ferch, saith i gyd, wedi eu geni i Jacob.
26. Chwe deg a chwech oedd nifer tylwyth Jacob ei hun, sef pawb a ddaeth gydag ef i'r Aifft, heb gyfrif gwragedd ei feibion.
27. Dau oedd nifer meibion Joseff a anwyd iddo yn yr Aifft; felly saith deg oedd nifer cyflawn teulu Jacob a ddaeth i'r Aifft.
28. Anfonwyd Jwda ar y blaen at Joseff i gael cyfarwyddyd am y ffordd i Gosen, ac felly daethant i wlad Gosen.
29. Gwnaeth Joseff ei gerbyd yn barod, ac aeth i gyfarfod â'i dad Israel yn Gosen, a phan ddaeth i'w ŵydd, rhoes ei freichiau am ei wddf gan wylo'n hidl.
30. Ac meddai Israel wrth Joseff, “Yr wyf yn barod i farw yn awr, wedi gweld dy wyneb a gwybod dy fod yn dal yn fyw.”
31. Dywedodd Joseff wrth ei frodyr a theulu ei dad, “Mi af i ddweud wrth Pharo fod fy mrodyr a theulu fy nhad wedi dod ataf o wlad Canaan,
32. ac mai bugeiliaid a pherchenogion anifeiliaid ydynt, a'u bod wedi dod â'u preiddiau, eu gyrroedd a'u holl eiddo gyda hwy.
33. Felly pan fydd Pharo yn galw amdanoch i holi beth yw eich galwedigaeth,