Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50

Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 46 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Jacob a'i Deulu yn Mudo i'r Aifft

1. Felly aeth Israel ar ei daith gyda'i holl eiddo, a dod i Beerseba lle yr offrymodd ebyrth i Dduw ei dad Isaac.

2. Llefarodd Duw wrth Israel mewn gweledigaeth nos, a dweud, “Jacob, Jacob.” Atebodd yntau, “Dyma fi.”

3. Yna dywedodd, “Myfi yw Duw, Duw dy dad. Paid ag ofni mynd i lawr i'r Aifft, oherwydd fe'th wnaf di'n genedl fawr yno.

4. Af i lawr i'r Aifft gyda thi, a dof â thi yn ôl drachefn. A chaiff Joseff gau dy lygaid.”

5. Yna cychwynnodd Jacob o Beerseba. Cludodd meibion Israel eu tad Jacob, eu rhai bach, a'u gwragedd, yn y wageni yr oedd Pharo wedi eu hanfon.

6. Cymerasant hefyd eu hanifeiliaid a'u meddiannau a gasglwyd yng ngwlad Canaan, a dod i'r Aifft, Jacob a'i holl deulu gydag ef,

7. ei feibion a'i ferched a'i wyrion; daeth â'i deulu i gyd i'r Aifft.

Teulu Jacob

8. Dyma enwau'r Israeliaid a ddaeth i'r Aifft, sef Jacob, a'i feibion: Reuben cyntafanedig Jacob,

9. a meibion Reuben: Hanoch, Palu, Hesron a Charmi.

10. Meibion Simeon: Jemwel, Jamin, Ohad, Jachin, Sohar, a Saul mab gwraig o blith y Canaaneaid.

11. Meibion Lefi: Gerson, Cohath a Merari.

12. Meibion Jwda: Er, Onan, Sela, Peres a Sera (ond bu farw Er ac Onan yng ngwlad Canaan); a meibion Peres: Hesron a Hamul.

13. Meibion Issachar: Tola, Pufa, Job a Simron.

14. Meibion Sabulon: Sered, Elon a Jahleel.

15. Dyna'r meibion a ddygodd Lea i Jacob yn Padan Aram, ac yr oedd hefyd ei ferch Dina. Tri deg a thri oedd rhif ei feibion a'i ferched.

16. Meibion Gad: Siffion, Haggi, Suni, Esbon, Eri, Arodi ac Areli.

17. Meibion Aser: Imna, Isfa, Isfi, Bereia, a'u chwaer Sera; a meibion Bereia, Heber a Malchiel.

18. Dyna feibion Silpa, a roddodd Laban i Lea ei ferch, un ar bymtheg i gyd, wedi eu geni i Jacob.

19. Meibion Rachel gwraig Jacob: Joseff a Benjamin.

20. Ac i Joseff yn yr Aifft ganwyd Manasse ac Effraim, meibion Asnath, merch Potiffera offeiriad On.

21. Meibion Benjamin: Bela, Becher, Asbel, Gera, Naaman, Ehi, Ros, Muppim, Huppim ac Ard.

22. Dyna feibion Rachel, pedwar ar ddeg i gyd, wedi eu geni i Jacob.

23. Mab Dan: Husim.

24. Meibion Nafftali: Jahseel, Guni, Jeser a Silem.

25. Dyma feibion Bilha, a roddodd Laban i Rachel ei ferch, saith i gyd, wedi eu geni i Jacob.

26. Chwe deg a chwech oedd nifer tylwyth Jacob ei hun, sef pawb a ddaeth gydag ef i'r Aifft, heb gyfrif gwragedd ei feibion.

27. Dau oedd nifer meibion Joseff a anwyd iddo yn yr Aifft; felly saith deg oedd nifer cyflawn teulu Jacob a ddaeth i'r Aifft.

Jacob a'i Deulu yn yr Aifft

28. Anfonwyd Jwda ar y blaen at Joseff i gael cyfarwyddyd am y ffordd i Gosen, ac felly daethant i wlad Gosen.

29. Gwnaeth Joseff ei gerbyd yn barod, ac aeth i gyfarfod â'i dad Israel yn Gosen, a phan ddaeth i'w ŵydd, rhoes ei freichiau am ei wddf gan wylo'n hidl.

30. Ac meddai Israel wrth Joseff, “Yr wyf yn barod i farw yn awr, wedi gweld dy wyneb a gwybod dy fod yn dal yn fyw.”

31. Dywedodd Joseff wrth ei frodyr a theulu ei dad, “Mi af i ddweud wrth Pharo fod fy mrodyr a theulu fy nhad wedi dod ataf o wlad Canaan,

32. ac mai bugeiliaid a pherchenogion anifeiliaid ydynt, a'u bod wedi dod â'u preiddiau, eu gyrroedd a'u holl eiddo gyda hwy.

33. Felly pan fydd Pharo yn galw amdanoch i holi beth yw eich galwedigaeth,

34. atebwch chwithau, ‘Bu dy weision o'u hieuenctid hyd heddiw yn berchenogion anifeiliaid, fel ein tadau.’ Hyn er mwyn ichwi gael aros yng ngwlad Gosen, oherwydd y mae'r Eifftiaid yn ffieiddio pob bugail.”