Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 36:25-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

25. Dyma blant Ana: Dison ac Oholibama ferch Ana.

26. Dyma feibion Dison: Hemdan, Esban, Ithran a Ceran.

27. Dyma feibion Eser: Bilhan, Saafan ac Acan.

28. Dyma feibion Disan: Us ac Aran.

29. Dyma benaethiaid yr Horiaid: Lotan, Sobal, Sibeon, Ana,

30. Dison, Eser a Disan. Dyna benaethiaid yr Horiaid yn ôl eu tylwythau yng ngwlad Seir.

31. Dyma'r brenhinoedd a fu'n teyrnasu yng ngwlad Edom, cyn i'r Israeliaid gael brenin.

32. Teyrnasodd Bela fab Beor yn Edom, a Dinhaba oedd enw ei ddinas.

33. Pan fu farw Bela, teyrnasodd Jobab fab Sera o Bosra yn ei le.

34. Pan fu farw Jobab, teyrnasodd Husam o wlad y Temaniaid yn ei le.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 36