1. Dyma genedlaethau Esau, hynny yw Edom.
2. Priododd Esau wragedd o blith merched Canaan, sef Ada merch Elon yr Hethiad, Oholibama merch Ana fab Sibeon yr Hefiad,
3. a Basemath merch Ismael a chwaer Nebaioth.
4. Ac i Esau esgorodd Ada ar Eliffas; esgorodd Basemath ar Reuel;
5. ac esgorodd Oholibama ar Jeus, Jalam a Cora. Dyma feibion Esau a anwyd iddo yng ngwlad Canaan.
6. Cymerodd Esau ei wragedd, ei feibion a'i ferched, a phob aelod o'i deulu, ei wartheg a'i holl anifeiliaid, a'r holl feddiant a gafodd yng ngwlad Canaan, ac aeth draw i wlad Seir oddi wrth ei frawd Jacob.
7. Yr oedd eu cyfoeth mor fawr fel na allent gyd-fyw, ac ni allai'r wlad lle'r oeddent yn byw eu cynnal o achos eu hanifeiliaid.
8. Felly arhosodd Esau, hynny yw Edom, ym mynydd-dir Seir.
9. Dyma genedlaethau Esau, tad yr Edomiaid ym mynydd-dir Seir.
10. Dyma enwau meibion Esau: Eliffas fab Ada gwraig Esau, Reuel fab Basemath gwraig Esau.
11. A meibion Eliffas oedd Teman, Omar, Seffo, Gatam a Cenas.
12. Yr oedd Timna yn wraig ordderch i Eliffas fab Esau, ac i Eliffas esgorodd ar Amalec. Dyna ddisgynyddion Ada gwraig Esau.
13. Meibion Reuel oedd Nahath, Sera, Samma a Missa. Dyna ddisgynyddion Basemath gwraig Esau.
14. Dyma feibion Oholibama, merch Ana fab Sibeon, gwraig Esau: i Esau esgorodd ar Jeus, Jalam a Cora.
15. Dyma benaethiaid disgynyddion Esau: meibion Eliffas, mab hynaf Esau, y penaethiaid Teman, Omar, Seffo, Cenas,
16. Cora, Gatam ac Amalec. Dyna benaethiaid Eliffas yng ngwlad Edom; meibion Ada oeddent.
17. Yna meibion Reuel fab Esau: y penaethiaid Nahath, Sera, Samma a Missa. Dyna benaethiaid Reuel yng ngwlad Edom; meibion Basemath gwraig Esau oeddent.
18. Yna meibion Oholibama gwraig Esau: y penaethiaid Jeus, Jalam a Cora. Dyna'r penaethiaid a anwyd i Oholibama merch Ana, gwraig Esau.
19. Dyna ddisgynyddion Esau, hynny yw Edom, a dyna'u penaethiaid.
20. Dyma feibion Seir yr Horiad, preswylwyr y wlad: Lotan, Sobal, Sibeon, Ana,
21. Dison, Eser a Disan. Dyna benaethiaid yr Horiaid, meibion Seir yng ngwlad Edom.
22. Hori a Hemam oedd meibion Lotan, a Timna oedd ei chwaer.
23. Dyma feibion Sobal: Alfan, Manahath, Ebal, Seffo ac Onam.
24. Dyma feibion Sibeon: Aia ac Ana. Hwn yw'r Ana a ddaeth o hyd i ddŵr yn y diffeithwch wrth wylio asynnod ei dad Sibeon.
25. Dyma blant Ana: Dison ac Oholibama ferch Ana.
26. Dyma feibion Dison: Hemdan, Esban, Ithran a Ceran.
27. Dyma feibion Eser: Bilhan, Saafan ac Acan.
28. Dyma feibion Disan: Us ac Aran.
29. Dyma benaethiaid yr Horiaid: Lotan, Sobal, Sibeon, Ana,
30. Dison, Eser a Disan. Dyna benaethiaid yr Horiaid yn ôl eu tylwythau yng ngwlad Seir.
31. Dyma'r brenhinoedd a fu'n teyrnasu yng ngwlad Edom, cyn i'r Israeliaid gael brenin.
32. Teyrnasodd Bela fab Beor yn Edom, a Dinhaba oedd enw ei ddinas.
33. Pan fu farw Bela, teyrnasodd Jobab fab Sera o Bosra yn ei le.
34. Pan fu farw Jobab, teyrnasodd Husam o wlad y Temaniaid yn ei le.
35. Pan fu farw Husam, teyrnasodd Hadad fab Bedad yn ei le, ac ymosododd ef ar Midian yng ngwlad Moab; Afith oedd enw ei ddinas.
36. Pan fu farw Hadad, teyrnasodd Samla o Masreca yn ei le.
37. Pan fu farw Samla, teyrnasodd Saul o Rehoboth-ger-Ewffrates yn ei le.
38. Pan fu farw Saul, teyrnasodd Baal-hanan fab Achbor yn ei le.
39. Pan fu farw Baal-hanan fab Achbor, teyrnasodd Hadar yn ei le; Pau oedd enw ei ddinas. Mehetabel merch Matred, merch Mesahab, oedd enw ei wraig.
40. Dyma enwau penaethiaid Esau, yn ôl eu llwythau a'u hardaloedd, wrth eu henwau: Timna, Alfa, Jetheth,
41. Oholibama, Ela, Pinon,
42. Cenas, Teman, Mibsar,
43. Magdiel ac Iram. Dyna benaethiaid Edom, hynny yw Esau tad yr Edomiaid, yn ôl lle'r oeddent yn byw yn y wlad yr oeddent yn ei meddiannu.