14. Dyma feibion Oholibama, merch Ana fab Sibeon, gwraig Esau: i Esau esgorodd ar Jeus, Jalam a Cora.
15. Dyma benaethiaid disgynyddion Esau: meibion Eliffas, mab hynaf Esau, y penaethiaid Teman, Omar, Seffo, Cenas,
16. Cora, Gatam ac Amalec. Dyna benaethiaid Eliffas yng ngwlad Edom; meibion Ada oeddent.
17. Yna meibion Reuel fab Esau: y penaethiaid Nahath, Sera, Samma a Missa. Dyna benaethiaid Reuel yng ngwlad Edom; meibion Basemath gwraig Esau oeddent.
18. Yna meibion Oholibama gwraig Esau: y penaethiaid Jeus, Jalam a Cora. Dyna'r penaethiaid a anwyd i Oholibama merch Ana, gwraig Esau.
19. Dyna ddisgynyddion Esau, hynny yw Edom, a dyna'u penaethiaid.
20. Dyma feibion Seir yr Horiad, preswylwyr y wlad: Lotan, Sobal, Sibeon, Ana,
21. Dison, Eser a Disan. Dyna benaethiaid yr Horiaid, meibion Seir yng ngwlad Edom.
22. Hori a Hemam oedd meibion Lotan, a Timna oedd ei chwaer.
23. Dyma feibion Sobal: Alfan, Manahath, Ebal, Seffo ac Onam.
24. Dyma feibion Sibeon: Aia ac Ana. Hwn yw'r Ana a ddaeth o hyd i ddŵr yn y diffeithwch wrth wylio asynnod ei dad Sibeon.
25. Dyma blant Ana: Dison ac Oholibama ferch Ana.
26. Dyma feibion Dison: Hemdan, Esban, Ithran a Ceran.
27. Dyma feibion Eser: Bilhan, Saafan ac Acan.
28. Dyma feibion Disan: Us ac Aran.
29. Dyma benaethiaid yr Horiaid: Lotan, Sobal, Sibeon, Ana,
30. Dison, Eser a Disan. Dyna benaethiaid yr Horiaid yn ôl eu tylwythau yng ngwlad Seir.