Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 29:20-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Felly gweithiodd Jacob saith mlynedd am Rachel, ac yr oeddent fel ychydig ddyddiau yn ei olwg am ei fod yn ei charu.

21. Yna dywedodd Jacob wrth Laban, “Daeth fy nhymor i ben; rho fy ngwraig imi, er mwyn imi gael cyfathrach â hi.”

22. Casglodd Laban holl bobl y lle at ei gilydd, a gwnaeth wledd.

23. Ond gyda'r hwyr cymerodd ei ferch Lea a mynd â hi at Jacob; cafodd yntau gyfathrach â hi.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 29