Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50

Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Jacob yn Cyrraedd Tŷ Laban

1. Yna aeth Jacob ymlaen ar ei daith, a dod i wlad pobl y dwyrain.

2. Wrth edrych, gwelodd bydew yn y maes, a thair diadell o ddefaid yn gorwedd wrtho, gan mai o'r pydew hwnnw y rhoid dŵr i'r diadelloedd. Yr oedd carreg fawr ar geg y pydew,

3. a phan fyddai'r holl ddiadelloedd wedi eu casglu yno, byddai'r bugeiliaid yn symud y garreg oddi ar geg y pydew, a rhoi dŵr i'r defaid, ac yna'n gosod y garreg yn ôl yn ei lle ar geg y pydew.

4. Dywedodd Jacob wrthynt, “Frodyr, o ble'r ydych yn dod?” Atebasant, “Rhai o Haran ydym ni.”

5. Yna gofynnodd iddynt, “A ydych yn adnabod Laban fab Nachor?” Atebasant hwythau, “Ydym.”

6. Wedyn meddai wrthynt, “A yw'n iawn?” Atebasant, “Ydyw; dacw ei ferch Rachel yn dod â'r defaid.”

7. “Nid yw eto ond canol dydd,” meddai yntau, “nid yw'n bryd casglu'r anifeiliaid; rhowch ddŵr i'r defaid, ac ewch i'w bugeilio.”

8. Ond atebasant, “Ni allwn nes casglu'r holl ddiadelloedd, a symud y garreg oddi ar geg y pydew; yna rhown ddŵr i'r defaid.”

9. Tra oedd yn siarad â hwy, daeth Rachel gyda defaid ei thad; oherwydd hi oedd yn eu bugeilio.

10. A phan welodd Jacob Rachel ferch Laban brawd ei fam, a defaid Laban brawd ei fam, nesaodd Jacob a symud y garreg oddi ar geg y pydew, a rhoi dŵr i braidd Laban brawd ei fam.

11. Cusanodd Jacob Rachel ac wylodd yn uchel.

12. Yna dywedodd Jacob wrth Rachel ei fod yn nai i'w thad, ac yn fab i Rebeca; rhedodd hithau i ddweud wrth ei thad.

13. Pan glywodd Laban am Jacob, mab ei chwaer, rhedodd i'w gyfarfod, a'i gofleidio a'i gusanu, ac aeth ag ef i'w dŷ. Adroddodd yntau'r cwbl wrth Laban,

14. a dywedodd Laban wrtho, “Yn sicr, fy asgwrn a'm cnawd wyt ti.” Ac arhosodd gydag ef am fis.

Jacob yn Gwasanaethu Laban am Rachel a Lea

15. Yna dywedodd Laban wrth Jacob, “Pam y dylit weithio imi am ddim, yn unig am dy fod yn nai imi? Dywed i mi beth fydd dy gyflog?”

16. Yr oedd gan Laban ddwy ferch; enw'r hynaf oedd Lea, ac enw'r ieuengaf Rachel.

17. Yr oedd llygaid Lea yn bŵl, ond yr oedd Rachel yn osgeiddig a phrydferth.

18. Hoffodd Jacob Rachel, a dywedodd, “Fe weithiaf i ti am saith mlynedd am Rachel, dy ferch ieuengaf.”

19. Dywedodd Laban, “Gwell gennyf ei rhoi i ti nag i neb arall; aros gyda mi.”

20. Felly gweithiodd Jacob saith mlynedd am Rachel, ac yr oeddent fel ychydig ddyddiau yn ei olwg am ei fod yn ei charu.

21. Yna dywedodd Jacob wrth Laban, “Daeth fy nhymor i ben; rho fy ngwraig imi, er mwyn imi gael cyfathrach â hi.”

22. Casglodd Laban holl bobl y lle at ei gilydd, a gwnaeth wledd.

23. Ond gyda'r hwyr cymerodd ei ferch Lea a mynd â hi at Jacob; cafodd yntau gyfathrach â hi.

24. Ac yr oedd Laban wedi rhoi ei forwyn Silpa i'w ferch Lea yn forwyn.

25. Pan ddaeth y bore, gwelodd Jacob mai Lea oedd gydag ef; a dywedodd wrth Laban, “Beth yw hyn yr wyt wedi ei wneud â mi? Onid am Rachel y gweithiais? Pam y twyllaist fi?”

26. Dywedodd Laban, “Nid yw'n arfer yn ein gwlad ni roi'r ferch ieuengaf o flaen yr hynaf.

27. Gorffen yr wythnos wledd gyda hon, a rhoir y llall hefyd iti am weithio imi am dymor o saith mlynedd arall.”

28. Gwnaeth Jacob felly, a gorffennodd y saith diwrnod. Yna rhoddodd Laban ei ferch Rachel yn wraig iddo,

29. a rhoi ei forwyn Bilha i'w ferch Rachel yn forwyn.

30. Cafodd Jacob gyfathrach â Rachel hefyd, a hoffodd Rachel yn fwy na Lea, a gweithiodd i Laban am saith mlynedd arall.

Enwau Plant Jacob

31. Pan welodd yr ARGLWYDD fod Lea'n cael ei chasáu, agorodd ei chroth; ond yr oedd Rachel yn ddi-blant.

32. Beichiogodd Lea ac esgor ar fab, a galwodd ef Reuben; oherwydd dywedodd, “Y mae'r ARGLWYDD wedi gweld fy ngwaradwydd, ac yn awr bydd fy ngŵr yn fy ngharu.”

33. Beichiogodd eilwaith ac esgor ar fab, a dywedodd, “Y mae'r ARGLWYDD wedi clywed fy mod yn cael fy nghasáu, a rhoddodd hwn i mi hefyd.” A galwodd ef Simeon.

34. Beichiogodd drachefn ac esgor ar fab, a dywedodd, “Yn awr, o'r diwedd fe unir fy ngŵr â mi, oherwydd rhoddais iddo dri mab.” Am hynny galwodd ef Lefi.

35. A beichiogodd drachefn ac esgor ar fab, a dywedodd, “Y tro hwn moliannaf yr ARGLWYDD.” Am hynny galwodd ef Jwda. Yna peidiodd â geni plant.