Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 29:1-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yna aeth Jacob ymlaen ar ei daith, a dod i wlad pobl y dwyrain.

2. Wrth edrych, gwelodd bydew yn y maes, a thair diadell o ddefaid yn gorwedd wrtho, gan mai o'r pydew hwnnw y rhoid dŵr i'r diadelloedd. Yr oedd carreg fawr ar geg y pydew,

3. a phan fyddai'r holl ddiadelloedd wedi eu casglu yno, byddai'r bugeiliaid yn symud y garreg oddi ar geg y pydew, a rhoi dŵr i'r defaid, ac yna'n gosod y garreg yn ôl yn ei lle ar geg y pydew.

4. Dywedodd Jacob wrthynt, “Frodyr, o ble'r ydych yn dod?” Atebasant, “Rhai o Haran ydym ni.”

5. Yna gofynnodd iddynt, “A ydych yn adnabod Laban fab Nachor?” Atebasant hwythau, “Ydym.”

6. Wedyn meddai wrthynt, “A yw'n iawn?” Atebasant, “Ydyw; dacw ei ferch Rachel yn dod â'r defaid.”

7. “Nid yw eto ond canol dydd,” meddai yntau, “nid yw'n bryd casglu'r anifeiliaid; rhowch ddŵr i'r defaid, ac ewch i'w bugeilio.”

8. Ond atebasant, “Ni allwn nes casglu'r holl ddiadelloedd, a symud y garreg oddi ar geg y pydew; yna rhown ddŵr i'r defaid.”

9. Tra oedd yn siarad â hwy, daeth Rachel gyda defaid ei thad; oherwydd hi oedd yn eu bugeilio.

10. A phan welodd Jacob Rachel ferch Laban brawd ei fam, a defaid Laban brawd ei fam, nesaodd Jacob a symud y garreg oddi ar geg y pydew, a rhoi dŵr i braidd Laban brawd ei fam.

11. Cusanodd Jacob Rachel ac wylodd yn uchel.

12. Yna dywedodd Jacob wrth Rachel ei fod yn nai i'w thad, ac yn fab i Rebeca; rhedodd hithau i ddweud wrth ei thad.

13. Pan glywodd Laban am Jacob, mab ei chwaer, rhedodd i'w gyfarfod, a'i gofleidio a'i gusanu, ac aeth ag ef i'w dŷ. Adroddodd yntau'r cwbl wrth Laban,

14. a dywedodd Laban wrtho, “Yn sicr, fy asgwrn a'm cnawd wyt ti.” Ac arhosodd gydag ef am fis.

15. Yna dywedodd Laban wrth Jacob, “Pam y dylit weithio imi am ddim, yn unig am dy fod yn nai imi? Dywed i mi beth fydd dy gyflog?”

16. Yr oedd gan Laban ddwy ferch; enw'r hynaf oedd Lea, ac enw'r ieuengaf Rachel.

17. Yr oedd llygaid Lea yn bŵl, ond yr oedd Rachel yn osgeiddig a phrydferth.

18. Hoffodd Jacob Rachel, a dywedodd, “Fe weithiaf i ti am saith mlynedd am Rachel, dy ferch ieuengaf.”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 29