Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 25:16-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. Dyna feibion Ismael, a dyna enwau deuddeg tywysog y llwythau yn ôl eu trefi a'u gwersylloedd.

17. Hyd oes Ismael oedd cant tri deg a saith o flynyddoedd; anadlodd ei anadl olaf, a chladdwyd ef gyda'i dylwyth.

18. Yr oeddent yn trigo o Hafila hyd Sur, i'r dwyrain o'r Aifft, i gyfeiriad Asyria; yr oeddent yn erbyn eu holl frodyr.

19. Dyma genedlaethau Isaac fab Abraham: tad Isaac oedd Abraham,

20. ac yr oedd Isaac yn ddeugain mlwydd oed pan gymerodd yn wraig Rebeca ferch Bethuel yr Aramead o Padan Aram, chwaer Laban yr Aramead.

21. A gweddïodd Isaac ar yr ARGLWYDD dros ei wraig, am ei bod heb eni plentyn. Atebodd yr ARGLWYDD ei weddi, a beichiogodd ei wraig Rebeca.

22. Aflonyddodd y plant ar ei gilydd yn ei chroth, a dywedodd hithau, “Pam y mae fel hyn arnaf?” Aeth i ymofyn â'r ARGLWYDD,

23. a dywedodd yr ARGLWYDD wrthi,“Dwy genedl sydd yn dy groth,a gwahenir dau lwyth o'th fru,bydd y naill yn gryfach na'r llall,a'r hynaf yn gwasanaethu'r ieuengaf.”

24. Pan ddaeth ei dyddiau i esgor, yr oedd gefeilliaid yn ei chroth.

25. Daeth y cyntaf allan yn goch, a'i holl gorff fel mantell flewog; am hynny galwyd ef Esau.

26. Wedyn daeth ei frawd allan, a'i law yn gafael yn sawdl Esau; am hynny galwyd ef Jacob. Yr oedd Isaac yn drigain oed pan anwyd hwy.

27. Tyfodd y bechgyn, a daeth Esau yn heliwr medrus, yn ŵr y maes; ond yr oedd Jacob yn ŵr tawel, yn byw mewn pebyll.

28. Yr oedd Isaac yn hoffi Esau, am ei fod yn bwyta o'i helfa; ond yr oedd Rebeca yn hoffi Jacob.

29. Un tro pan oedd Jacob yn berwi cawl, daeth Esau o'r maes ar ddiffygio.

30. A dywedodd Esau wrth Jacob, “Gad imi fwyta o'r cawl coch yma, oherwydd yr wyf ar ddiffygio.” Dyna pam y galwyd ef Edom.

31. Dywedodd Jacob, “Gwertha imi'n awr dy enedigaeth-fraint.”

32. A dywedodd Esau, “Pa les yw genedigaeth-fraint i mi, a minnau ar fin marw?”

33. Dywedodd Jacob, “Dos ar dy lw i mi yn awr.” Felly aeth ar ei lw, a gwerthu ei enedigaeth-fraint i Jacob.

34. Yna rhoddodd Jacob fara a chawl ffacbys i Esau; bwytaodd ac yfodd, ac yna codi a mynd ymaith. Fel hyn y diystyrodd Esau ei enedigaeth-fraint.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 25