Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50

Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Disgynyddion Eraill Abraham

1. Cymerodd Abraham wraig arall o'r enw Cetura.

2. Ohoni hi ganwyd iddo Simran, Jocsan, Medan, Midian, Isbac a Sua.

3. Jocsan oedd tad Seba a Dedan; a meibion Dedan oedd Assurim, Letusim a Lewmmim.

4. Meibion Midian oedd Effa, Effer, Hanoch, Abida ac Eldaa. Yr oedd y rhain i gyd yn blant Cetura.

5. Rhoddodd Abraham ei holl eiddo i Isaac.

6. Ond tra oedd eto'n fyw, yr oedd Abraham wedi rhoi anrhegion i feibion ei wragedd gordderch, ac wedi eu hanfon ymaith oddi wrth ei fab Isaac, draw i wlad ddwyreiniol.

Marw Abraham a'i Gladdu

7. Yr oedd oes gyfan Abraham yn gant saith deg a phump o flynyddoedd.

8. Anadlodd Abraham ei anadl olaf, a bu farw wedi oes hir, yn hen ac oedrannus; a chladdwyd ef gyda'i dylwyth.

9. Claddwyd ef gan ei feibion Isaac ac Ismael yn ogof Machpela, ym maes Effron fab Sohar yr Hethiad, i'r dwyrain o Mamre,

10. y maes yr oedd Abraham wedi ei brynu gan yr Hethiaid. Yno y claddwyd Abraham gyda'i wraig Sara.

11. Wedi marw Abraham bendithiodd Duw ei fab Isaac, ac arhosodd Isaac ger Beer-lahai-roi.

Disgynyddion Ismael

12. Dyma genedlaethau Ismael fab Abraham, a anwyd iddo o Hagar yr Eifftes, morwyn Sara.

13. Dyma enwau meibion Ismael, yn nhrefn eu geni: Nebaioth, cyntafanedig Ismael, a Cedar, Adbeel, Mibsam,

14. Misma, Duma, Massa,

15. Hadad, Tema, Jetur, Naffis a Cedema.

16. Dyna feibion Ismael, a dyna enwau deuddeg tywysog y llwythau yn ôl eu trefi a'u gwersylloedd.

17. Hyd oes Ismael oedd cant tri deg a saith o flynyddoedd; anadlodd ei anadl olaf, a chladdwyd ef gyda'i dylwyth.

18. Yr oeddent yn trigo o Hafila hyd Sur, i'r dwyrain o'r Aifft, i gyfeiriad Asyria; yr oeddent yn erbyn eu holl frodyr.

Geni Esau a Jacob

19. Dyma genedlaethau Isaac fab Abraham: tad Isaac oedd Abraham,

20. ac yr oedd Isaac yn ddeugain mlwydd oed pan gymerodd yn wraig Rebeca ferch Bethuel yr Aramead o Padan Aram, chwaer Laban yr Aramead.

21. A gweddïodd Isaac ar yr ARGLWYDD dros ei wraig, am ei bod heb eni plentyn. Atebodd yr ARGLWYDD ei weddi, a beichiogodd ei wraig Rebeca.

22. Aflonyddodd y plant ar ei gilydd yn ei chroth, a dywedodd hithau, “Pam y mae fel hyn arnaf?” Aeth i ymofyn â'r ARGLWYDD,

23. a dywedodd yr ARGLWYDD wrthi,“Dwy genedl sydd yn dy groth,a gwahenir dau lwyth o'th fru,bydd y naill yn gryfach na'r llall,a'r hynaf yn gwasanaethu'r ieuengaf.”

24. Pan ddaeth ei dyddiau i esgor, yr oedd gefeilliaid yn ei chroth.

25. Daeth y cyntaf allan yn goch, a'i holl gorff fel mantell flewog; am hynny galwyd ef Esau.

26. Wedyn daeth ei frawd allan, a'i law yn gafael yn sawdl Esau; am hynny galwyd ef Jacob. Yr oedd Isaac yn drigain oed pan anwyd hwy.

Esau'n Gwerthu ei Enedigaeth-fraint

27. Tyfodd y bechgyn, a daeth Esau yn heliwr medrus, yn ŵr y maes; ond yr oedd Jacob yn ŵr tawel, yn byw mewn pebyll.

28. Yr oedd Isaac yn hoffi Esau, am ei fod yn bwyta o'i helfa; ond yr oedd Rebeca yn hoffi Jacob.

29. Un tro pan oedd Jacob yn berwi cawl, daeth Esau o'r maes ar ddiffygio.

30. A dywedodd Esau wrth Jacob, “Gad imi fwyta o'r cawl coch yma, oherwydd yr wyf ar ddiffygio.” Dyna pam y galwyd ef Edom.

31. Dywedodd Jacob, “Gwertha imi'n awr dy enedigaeth-fraint.”

32. A dywedodd Esau, “Pa les yw genedigaeth-fraint i mi, a minnau ar fin marw?”

33. Dywedodd Jacob, “Dos ar dy lw i mi yn awr.” Felly aeth ar ei lw, a gwerthu ei enedigaeth-fraint i Jacob.

34. Yna rhoddodd Jacob fara a chawl ffacbys i Esau; bwytaodd ac yfodd, ac yna codi a mynd ymaith. Fel hyn y diystyrodd Esau ei enedigaeth-fraint.