Hen Destament

Testament Newydd

Galarnad 4:3-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Y mae hyd yn oed siacaliaid yn dinoethi'r froni roi sugn i'w hepil,ond y mae merch fy mhobl wedi mynd yn greulon,fel estrys yn yr anialwch.

4. Y mae tafod y plentyn sugnoyn glynu wrth ei daflod o syched;y mae'r plant yn cardota bara,heb neb yn ei roi iddynt.

5. Y mae'r rhai a arferai fwyta danteithionyn ddiymgeledd yn y strydoedd,a'r rhai a fagwyd mewn ysgarladyn ymgreinio ar domennydd ysbwriel.

6. Y mae trosedd merch fy mhoblyn fwy na phechod Sodom,a ddymchwelwyd yn ddisymwthheb i neb godi llaw yn ei herbyn.

7. Yr oedd ei thywysogion yn lanach nag eira,yn wynnach na llaeth;yr oedd eu cyrff yn gochach na chwrel,a'u pryd fel saffir.

8. Ond aeth eu hwynepryd yn dduach na pharddu,ac nid oes neb yn eu hadnabod yn y strydoedd;crebachodd eu croen am eu hesgyrn,a sychodd fel pren.

9. Yr oedd y rhai a laddwyd â'r cleddyf yn fwy ffodusna'r rhai oedd yn marw o newyn,oherwydd yr oeddent hwy yn dihoeni,wedi eu hamddifadu o gynnyrch y meysydd.

10. Yr oedd gwragedd tynergalon â'u dwylo eu hunainyn berwi eu plant,i'w gwneud yn fwyd iddynt eu hunain,pan ddinistriwyd merch fy mhobl.

11. Bwriodd yr ARGLWYDD ei holl lid,a thywalltodd angerdd ei ddig;cyneuodd dân yn Seion,ac fe ysodd ei sylfeini.

12. Ni chredai brenhinoedd y ddaear,na'r un o drigolion y byd,y gallai ymosodwr neu elynfynd i mewn trwy byrth Jerwsalem.

13. Ond fe ddigwyddodd hyn oherwydd pechodau ei phroffwydia chamweddau ei hoffeiriaid,a dywalltodd waed y cyfiawn yn ei chanol hi.

14. Yr oeddent yn crwydro fel deillion yn y strydoedd,wedi eu halogi â gwaed,fel na feiddiai neb gyffwrdd â'u dillad.

15. “Cadwch draw, maent yn aflan,”—dyna a waeddai pobl—“cadwch draw, cadwch draw, peidiwch â'u cyffwrdd!”Yn wir fe ffoesant a mynd ar grwydr,a dywedwyd ymysg y cenhedloedd,“Ni chânt aros yn ein plith mwyach.”

16. Yr ARGLWYDD ei hun a'u gwasgarodd,heb edrych arnynt mwyach;ni roddwyd anrhydedd i'r offeiriaid,na ffafr i'r henuriaid.

Darllenwch bennod gyflawn Galarnad 4