Hen Destament

Testament Newydd

Galarnad 1:16-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. O achos hyn yr wyf yn wylo,ac y mae fy llygad yn llifo gan ddagrau,oherwydd pellhaodd yr un sy'n fy nghysuroac yn fy nghynnal;y mae fy mhlant wedi eu hanrheithioam fod y gelyn wedi gorchfygu.

17. Estynnodd Seion ei dwylo,ond nid oedd neb i'w chysuro;gorchmynnodd yr ARGLWYDD i'r gelynionamgylchynu Jacob o bob cyfeiriad;yr oedd Jerwsalem wedi myndyn ffieidd-dra yn eu mysg.

18. Y mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn,ond gwrthryfelais yn erbyn ei air.Gwrandewch yn awr, yr holl bobloedd,ac edrychwch ar fy nolur:aeth fy merched a'm dynion ifainc i gaethglud.

19. Gelwais ar fy nghariadon,ond y maent hwy wedi fy mradychu;trengodd f'offeiriaid a'm henuriaid yn y ddinas,wrth chwilio am fwyd i'w cynnal eu hunain.

20. Edrych, O ARGLWYDD, oherwydd y mae'n gyfyng arnaf;y mae f'ymysgaroedd mewn poen,a'm calon wedi cyffroi,oherwydd yr wyf wedi gwrthryfela i'r eithaf.O'r tu allan, y mae'r cleddyf wedi gwneud rhai'n amddifad;yn y tŷ, nid oes dim ond marwolaeth.

21. Gwrandewch pan wyf yn griddfan,heb neb i'm cysuro.Clywodd fy holl elynion am fy nhrychineb,a llawenhau am iti wneud hyn;ond byddi di'n dwyn arnynt y dydd a benodaist,a byddant hwythau fel finnau.

22. Gad i'w holl ddrygioni ddod i'th sylw,a dwg gosb arnynt,fel y cosbaist fi am fy holl droseddau;oherwydd y mae fy ngriddfannau'n aml,a'm calon yn gystuddiol.

Darllenwch bennod gyflawn Galarnad 1