13. a gwisg Aaron â'r gwisgoedd cysegredig; eneinia ef a'i gysegru i'm gwasanaethu fel offeiriad.
14. Tyrd â'i feibion hefyd, a'u gwisgo â'r siacedau;
15. eneinia hwy, fel yr eneiniaist eu tad, i'm gwasanaethu fel offeiriaid; trwy eu heneinio fe'u hurddir i offeiriadaeth dragwyddol, dros y cenedlaethau.”
16. Felly gwnaeth Moses y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD iddo;
17. ac ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf o'r ail flwyddyn fe godwyd y tabernacl.
18. Moses a gododd y tabernacl; gosododd ef ar ei draed, adeiladodd ei fframiau, rhoddodd ei bolion yn eu lle a chododd ei golofnau.
19. Lledodd y babell dros y tabernacl, a gosod to'r babell drosto, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
20. Cymerodd y dystiolaeth a'i rhoi yn yr arch; cysylltodd y polion wrth yr arch, a rhoi'r drugareddfa arni.
21. Yna daeth â'r arch i mewn i'r tabernacl, a gosod y gorchudd yn ei le dros arch y dystiolaeth, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
22. Rhoddodd y bwrdd ym mhabell y cyfarfod, ar ochr ogleddol y tabernacl, y tu allan i'r gorchudd,
23. a threfnodd y bara arno gerbron yr ARGLWYDD, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
24. Rhoddodd y canhwyllbren ym mhabell y cyfarfod, gyferbyn â'r bwrdd ar ochr ddeheuol y tabernacl,
25. a goleuodd y lampau gerbron yr ARGLWYDD, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
26. Rhoddodd yr allor aur ym mhabell y cyfarfod o flaen y gorchudd,
27. ac offrymodd arogldarth peraidd arni, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
28. Rhoddodd y llen ar ddrws y tabernacl,
29. a gosododd allor y poethoffrwm wrth ddrws y tabernacl, pabell y cyfarfod, ac offrymodd arni boethoffrwm a bwydoffrwm, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
30. Gosododd y noe rhwng pabell y cyfarfod a'r allor, a rhoi ynddi ddŵr,
31. er mwyn i Moses, Aaron a'i feibion olchi eu dwylo a'u traed.
32. Ymolchent wrth fynd i mewn i babell y cyfarfod ac wrth nesáu at yr allor, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.