Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 40:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2. “Yr wyt i godi'r tabernacl, pabell y cyfarfod, ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf.

3. Gosod arch y dystiolaeth ynddo, a'i gorchuddio â llen.

4. Cymer y bwrdd i mewn, a'i osod yn drefnus, a chymer y canhwyllbren, a goleua ei lampau.

5. Rho allor aur yr arogldarth o flaen arch y dystiolaeth, a gosod y llen ar ddrws y tabernacl.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 40