1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
2. “Yr wyt i godi'r tabernacl, pabell y cyfarfod, ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf.
3. Gosod arch y dystiolaeth ynddo, a'i gorchuddio â llen.
4. Cymer y bwrdd i mewn, a'i osod yn drefnus, a chymer y canhwyllbren, a goleua ei lampau.
5. Rho allor aur yr arogldarth o flaen arch y dystiolaeth, a gosod y llen ar ddrws y tabernacl.
6. Rho allor y poethoffrwm o flaen drws y tabernacl, pabell y cyfarfod,
7. a gosod y noe rhwng pabell y cyfarfod a'r allor, a rhoi dŵr ynddi.
8. Gosod y cyntedd o'i amgylch, a llen ar gyfer porth y cyntedd.
9. Yna cymer olew'r ennaint, ac eneinio'r tabernacl a'r cyfan sydd ynddo, a chysegra ef a'i holl ddodrefn; a bydd yn gysegredig.
10. Eneinia hefyd allor y poethoffrwm a'i holl lestri, a chysegra'r allor; a bydd yr allor yn gysegredig iawn.
11. Yna eneinia'r noe a'i throed, a chysegra hi.
12. Tyrd ag Aaron a'i feibion at ddrws pabell y cyfarfod, a'u golchi â dŵr,
13. a gwisg Aaron â'r gwisgoedd cysegredig; eneinia ef a'i gysegru i'm gwasanaethu fel offeiriad.
14. Tyrd â'i feibion hefyd, a'u gwisgo â'r siacedau;
15. eneinia hwy, fel yr eneiniaist eu tad, i'm gwasanaethu fel offeiriaid; trwy eu heneinio fe'u hurddir i offeiriadaeth dragwyddol, dros y cenedlaethau.”
16. Felly gwnaeth Moses y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD iddo;
17. ac ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf o'r ail flwyddyn fe godwyd y tabernacl.
18. Moses a gododd y tabernacl; gosododd ef ar ei draed, adeiladodd ei fframiau, rhoddodd ei bolion yn eu lle a chododd ei golofnau.