Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 25:36-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

36. Bydd y cnapiau a'r ceinciau yn rhan o'r canhwyllbren, a bydd y cyfan o aur pur ac o ddeunydd gyr.

37. Yr wyt i wneud ar ei gyfer saith llusern, a'u gosod fel eu bod yn goleuo'r gwagle o gwmpas.

38. Bydd ei efeiliau a'i gafnau o aur pur.

39. Yr wyt i wneud y canhwyllbren a'r holl lestri hyn o un dalent o aur pur.

40. Ond gofala dy fod yn eu gwneud yn ôl y patrwm a ddangoswyd i ti ar y mynydd.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 25