22. Yno byddaf yn cyfarfod â thi, ac oddi ar y drugareddfa, rhwng y ddau gerwb sydd ar arch y dystiolaeth, y byddaf yn mynegi iti yr holl bethau yr wyf yn eu gorchymyn i bobl Israel.
23. “Yr wyt i wneud bwrdd o goed acasia, dau gufydd o hyd, cufydd o led, a chufydd a hanner o uchder,
24. a'i oreuro ag aur pur drosto, a gwneud ymyl aur o'i amgylch.
25. Gwna ffrâm o led llaw o'i gwmpas, a chylch aur o amgylch y ffrâm.
26. Yr wyt hefyd i wneud ar ei gyfer bedair dolen aur, a'u clymu wrth y pedair coes yn y pedair congl.
27. Bydd y dolennau sydd ar ymyl y ffrâm yn dal y polion sy'n cludo'r bwrdd.
28. Yr wyt i wneud y polion a fydd yn cludo'r bwrdd o goed acasia, a'u goreuro.
29. Gwna lestri a dysglau ar ei gyfer, a ffiolau a chostrelau i dywallt y diodoffrwm; yr wyt i'w gwneud o aur pur.
30. Yr wyt i roi'r bara gosod ar y bwrdd o'm blaen yn wastadol.
31. “Gwna ganhwyllbren o aur pur. Y mae gwaelod y canhwyllbren a'i baladr i'w gwneud o ddeunydd gyr, ac y mae'r pedyll, y cnapiau a'r blodau i fod yn rhan o'r cyfanwaith.