16. yr wyt i roi yn yr arch y dystiolaeth yr wyf yn ei rhoi iti.
17. Gwna drugareddfa o aur pur, dau gufydd a hanner o hyd, a chufydd a hanner o led;
18. gwna hefyd ar gyfer y naill ben a'r llall i'r drugareddfa ddau gerwb o aur wedi ei guro.
19. Gwna un yn y naill ben a'r llall yn y pen arall, yn rhan o'r drugareddfa.
20. Y mae dwy adain y cerwbiaid i fod ar led, fel eu bod yn gorchuddio'r drugareddfa; y mae'r cerwbiaid i wynebu ei gilydd, â'u hwynebau tua'r drugareddfa.
21. Yr wyt i roi'r drugareddfa ar ben yr arch, a rhoi yn yr arch y dystiolaeth y byddaf yn ei rhoi i ti.
22. Yno byddaf yn cyfarfod â thi, ac oddi ar y drugareddfa, rhwng y ddau gerwb sydd ar arch y dystiolaeth, y byddaf yn mynegi iti yr holl bethau yr wyf yn eu gorchymyn i bobl Israel.
23. “Yr wyt i wneud bwrdd o goed acasia, dau gufydd o hyd, cufydd o led, a chufydd a hanner o uchder,
24. a'i oreuro ag aur pur drosto, a gwneud ymyl aur o'i amgylch.
25. Gwna ffrâm o led llaw o'i gwmpas, a chylch aur o amgylch y ffrâm.
26. Yr wyt hefyd i wneud ar ei gyfer bedair dolen aur, a'u clymu wrth y pedair coes yn y pedair congl.
27. Bydd y dolennau sydd ar ymyl y ffrâm yn dal y polion sy'n cludo'r bwrdd.
28. Yr wyt i wneud y polion a fydd yn cludo'r bwrdd o goed acasia, a'u goreuro.
29. Gwna lestri a dysglau ar ei gyfer, a ffiolau a chostrelau i dywallt y diodoffrwm; yr wyt i'w gwneud o aur pur.
30. Yr wyt i roi'r bara gosod ar y bwrdd o'm blaen yn wastadol.
31. “Gwna ganhwyllbren o aur pur. Y mae gwaelod y canhwyllbren a'i baladr i'w gwneud o ddeunydd gyr, ac y mae'r pedyll, y cnapiau a'r blodau i fod yn rhan o'r cyfanwaith.
32. Bydd chwe chainc yn dod allan o ochrau'r canhwyllbren, tair ar un ochr a thair ar y llall.
33. Ar un gainc bydd tair padell ar ffurf almonau, a chnap a blodeuyn arnynt, a thair ar y gainc nesaf; dyma fydd ar y chwe chainc sy'n dod allan o'r canhwyllbren.