13. Gwna bolion o goed acasia a'u goreuro,
14. a'u gosod yn y dolennau ar ochrau'r arch, i'w chario.
15. Y mae'r polion i aros yn nolennau'r arch heb eu symud oddi yno;
16. yr wyt i roi yn yr arch y dystiolaeth yr wyf yn ei rhoi iti.
17. Gwna drugareddfa o aur pur, dau gufydd a hanner o hyd, a chufydd a hanner o led;
18. gwna hefyd ar gyfer y naill ben a'r llall i'r drugareddfa ddau gerwb o aur wedi ei guro.
19. Gwna un yn y naill ben a'r llall yn y pen arall, yn rhan o'r drugareddfa.
20. Y mae dwy adain y cerwbiaid i fod ar led, fel eu bod yn gorchuddio'r drugareddfa; y mae'r cerwbiaid i wynebu ei gilydd, â'u hwynebau tua'r drugareddfa.
21. Yr wyt i roi'r drugareddfa ar ben yr arch, a rhoi yn yr arch y dystiolaeth y byddaf yn ei rhoi i ti.
22. Yno byddaf yn cyfarfod â thi, ac oddi ar y drugareddfa, rhwng y ddau gerwb sydd ar arch y dystiolaeth, y byddaf yn mynegi iti yr holl bethau yr wyf yn eu gorchymyn i bobl Israel.
23. “Yr wyt i wneud bwrdd o goed acasia, dau gufydd o hyd, cufydd o led, a chufydd a hanner o uchder,
24. a'i oreuro ag aur pur drosto, a gwneud ymyl aur o'i amgylch.
25. Gwna ffrâm o led llaw o'i gwmpas, a chylch aur o amgylch y ffrâm.
26. Yr wyt hefyd i wneud ar ei gyfer bedair dolen aur, a'u clymu wrth y pedair coes yn y pedair congl.
27. Bydd y dolennau sydd ar ymyl y ffrâm yn dal y polion sy'n cludo'r bwrdd.
28. Yr wyt i wneud y polion a fydd yn cludo'r bwrdd o goed acasia, a'u goreuro.
29. Gwna lestri a dysglau ar ei gyfer, a ffiolau a chostrelau i dywallt y diodoffrwm; yr wyt i'w gwneud o aur pur.
30. Yr wyt i roi'r bara gosod ar y bwrdd o'm blaen yn wastadol.