1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
2. “Dywed wrth bobl Israel am ddod ag offrwm i mi, a derbyniwch oddi wrth bob un yr offrwm y mae'n ei roi o'i wirfodd.
3. Dyma'r offrwm yr ydych i'w dderbyn ganddynt: aur, arian ac efydd;
4. sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main; blew geifr,
5. crwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch, a chrwyn morfuchod; coed acasia,
6. olew ar gyfer y lampau, perlysiau ar gyfer olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd;
7. meini onyx, a gemau i'w gosod yn yr effod a'r ddwyfronneg.
8. Y maent hefyd i wneud cysegr, er mwyn i mi drigo yn eu plith.
9. Yr ydych i'w wneud yn unol â'r cynllun o'r tabernacl, a'i holl ddodrefn, yr wyf yn ei ddangos i ti.
10. “Y maent i wneud arch o goed acasia, dau gufydd a hanner o hyd, cufydd a hanner o led, a chufydd a hanner o uchder.
11. Yr wyt i'w goreuro ag aur pur oddi mewn ac oddi allan, ac yr wyt i wneud ymyl aur o'i hamgylch.
12. Yna yr wyt i lunio pedair dolen gron o aur ar gyfer ei phedair congl, dwy ar y naill ochr a dwy ar y llall.
13. Gwna bolion o goed acasia a'u goreuro,
14. a'u gosod yn y dolennau ar ochrau'r arch, i'w chario.
15. Y mae'r polion i aros yn nolennau'r arch heb eu symud oddi yno;
16. yr wyt i roi yn yr arch y dystiolaeth yr wyf yn ei rhoi iti.