15. Bydd penaethiaid Edom yn brawychu,ac arweinwyr Moab yn arswydo,a holl drigolion Canaan yn toddi.
16. Daw ofn a braw arnynt;oherwydd mawredd dy fraich byddant mor llonydd â charreg,nes i'th bobl di, O ARGLWYDD, fynd heibio,nes i'r bobl a brynaist ti fynd heibio.
17. Fe'u dygi i mewn a'u plannu ar y mynydd sy'n eiddo i ti,y man, O ARGLWYDD, a wnei yn drigfan i ti dy hun,y cysegr, O ARGLWYDD, a godi â'th ddwylo.
18. Bydd yr ARGLWYDD yn teyrnasu byth bythoedd.”
19. Pan aeth meirch Pharo a'i gerbydau a'i farchogion i mewn i'r môr, gwnaeth yr ARGLWYDD i ddyfroedd y môr ddychwelyd drostynt; ond cerddodd yr Israeliaid trwy ganol y môr ar dir sych.
20. Yna cymerodd Miriam y broffwydes, chwaer Aaron, dympan yn ei llaw, ac aeth yr holl wragedd allan ar ei hôl a dawnsio gyda thympanau.
21. Canodd Miriam gân iddynt:“Canwch i'r ARGLWYDD am iddo weithredu'n fuddugoliaethus;bwriodd y ceffyl a'i farchog i'r môr.”
22. Yna arweiniodd Moses yr Israeliaid oddi wrth y Môr Coch, ac aethant ymaith i anialwch Sur; buont yn teithio'r anialwch am dridiau heb gael dŵr.
23. Pan ddaethant i Mara, ni allent yfed y dŵr yno am ei fod yn chwerw; dyna pam y galwyd y lle yn Mara.