Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 13:13-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Ond yr wyt i roi oen yn gyfnewid am bob asyn cyntafanedig, ac os nad wyt am ei gyfnewid, yr wyt i dorri ei wddf. Yr wyt hefyd i gyfnewid pob cyntafanedig o blith dy feibion.

14. Yna pan fydd dy blentyn ymhen amser yn gofyn, ‘Beth yw ystyr hyn?’ dywed wrtho, ‘Â llaw nerthol y daeth yr ARGLWYDD â ni o'r Aifft, o dŷ caethiwed;

15. oherwydd pan wrthododd Pharo ein gollwng yn rhydd, lladdodd yr ARGLWYDD bob cyntafanedig, yn ddyn ac anifail, yng ngwlad yr Aifft. Dyna pam yr wyf yn aberthu i'r ARGLWYDD bob gwryw cyntafanedig, ond yn cyfnewid pob cyntafanedig o blith fy meibion.’

16. Bydd hyn yn arwydd ar dy law ac yn rhactalau rhwng dy lygaid; oherwydd â llaw nerthol y daeth yr ARGLWYDD â ni allan o'r Aifft.”

17. Pan ollyngodd Pharo y bobl yn rhydd, nid arweiniodd Duw hwy ar hyd ffordd gwlad y Philistiaid, er bod honno'n agos. “Oherwydd,” meddai, “gallai'r bobl newid eu meddwl pan welant ryfel, a dychwelyd i'r Aifft.”

18. Felly arweiniodd hwy ar hyd ffordd yr anialwch i gyfeiriad y Môr Coch, ac aeth yr Israeliaid allan o wlad yr Aifft gan ddwyn eu harfau rhyfel.

19. Cymerodd Moses esgyrn Joseff gydag ef, oherwydd yr oedd Joseff wedi gosod yr Israeliaid dan lw, drwy ddweud, “Bydd Duw yn sicr o ymweld â chwi, a'r pryd hwnnw yr ydych i ddwyn fy esgyrn oddi yma gyda chwi.”

20. Aethant ymaith o Succoth a gwersyllu yn Etham, ar gwr yr anialwch.

21. Yr oedd yr ARGLWYDD yn mynd o'u blaen mewn colofn o niwl yn ystod y dydd i'w harwain ar y ffordd, ac mewn colofn o dân yn ystod y nos i'w goleuo; felly gallent deithio ddydd a nos.

22. Ni symudwyd y golofn niwl oedd o flaen y bobl yn ystod y dydd na'r golofn dân oedd o'u blaen yn ystod y nos.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 13