Exodus 13:17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)
Pan ollyngodd Pharo y bobl yn rhydd, nid arweiniodd Duw hwy ar hyd ffordd gwlad y Philistiaid, er bod honno'n agos. “Oherwydd,” meddai, “gallai'r bobl newid eu meddwl pan welant ryfel, a dychwelyd i'r Aifft.”