14. Dyma a ddywed yr ARGLWYDD:“Bydd llafurwyr yr Aifft, masnachwyr Ethiopia a'r Sabeaid talyn croesi atat ac yn eiddo i ti;dônt ar dy ôl mewn cadwyni,ymgrymant i ti a chyffesu,‘Yn sicr y mae Duw yn eich plith,ac nid oes neb ond ef yn Dduw.’ ”
15. Yn wir, Duw cuddiedig wyt ti,Dduw Israel, y Gwaredydd.
16. Cywilyddir a Gwaradwyddir hwy i gyd;â'r seiri delwau oll yn waradwydd,
17. ond gwaredir Israel gan yr ARGLWYDDâ gwaredigaeth dragwyddol;ni'ch cywilyddir ac ni'ch gwaradwyddirbyth bythoedd.
18. Dyma a ddywed yr ARGLWYDD,creawdwr y nefoedd, yr un sy'n Dduw,lluniwr y ddaear a'i gwneuthurwr, yr un a'i sefydlodd,yr un a'i creodd, nid i fod yn afluniaidd,ond a'i ffurfiodd i'w phreswylio:“Myfi yw'r ARGLWYDD, ac nid oes arall;
19. nid mewn dirgelwch y lleferais,nid mewn man tywyll o'r ddaear;ni ddywedais wrth feibion Jacob,‘Ceisiwch fi mewn anhrefn.’Myfi, yr ARGLWYDD, yw'r un sy'n llefaru cyfiawnder,ac yn mynegi uniondeb.
20. “Ymgasglwch, dewch yma,nesewch gyda'ch gilydd,rai dihangol y cenhedloedd.Nid oes gwybodaeth gan gludwyr delwau prena'r rhai sy'n gweddïo ar dduw na all eu hachub.
21. Dewch ymlaen, cyflwynwch eich achos;boed iddynt gymryd cyngor ynghyd.Pwy a fynegodd hyn o'r blaen?Pwy a'i dywedodd o'r dechrau?Onid myfi, yr ARGLWYDD?Nid oes Duw ond myfi, Duw cyfiawn, a gwaredydd.Nid oes neb ond myfi.
22. Chwi, holl gyrrau'r ddaear, edrychwch ataf i'ch gwaredu,canys myfi wyf Dduw, ac nid oes arall.
23. Ar fy llw y tyngais;gwir a ddaeth allan o'm genau,gair na ddychwel:i mi bydd pob glin yn plygua phob tafod yn tyngu.
24. Fe ddywedir amdanaf,‘Yn ddiau, yn yr ARGLWYDD y mae cyfiawnder a nerth’.”Bydd pob un a ddigiodd wrthoyn dod ato ef mewn cywilydd.