Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66

Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 45 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Galw Cyrus

1. Dyma a ddywed yr ARGLWYDD wrth Cyrus ei eneiniog,yr un y gafaelais yn ei lawi ddarostwng cenhedloedd o'i flaen,i ddiarfogi brenhinoedd,i agor dorau o'i flaen,ac ni chaeir pyrth rhagddo:

2. “Mi af o'th flaen dii lefelu'r mynyddoedd;torraf y dorau pres,a dryllio'r barrau haearn.

3. Rhof iti drysorau o leoedd tywyll,wedi eu cronni mewn mannau dirgel,er mwyn iti wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD,Duw Israel, sy'n dy gyfarch wrth dy enw.

4. Er mwyn fy ngwas Jacob,a'm hetholedig Israel,gelwais di wrth dy enw,a'th gyfenwi, er na'm hadwaenit.

5. Myfi yw'r ARGLWYDD, ac nid oes arall;ar wahân i mi nid oes Duw.Gwregysais di, er na'm hadwaenit,

6. er mwyn iddynt wybod,o godiad haul hyd ei fachlud,nad oes neb ond myfi.Myfi yw'r ARGLWYDD, ac nid oes arall,

7. yn llunio goleuniac yn creu tywyllwch,yn peri llwyddiant ac yn achosi methiant;myfi, yr ARGLWYDD, sy'n gwneud y cyfan.

8. “Defnynnwch oddi fry, O nefoedd;tywallted yr wybren gyfiawnder.Agored y ddaear, er mwyn i iachawdwriaeth eginoac i gyfiawnder flaguro.Myfi, yr ARGLWYDD, a'i gwnaeth.

9. “Gwae'r sawl sy'n ymryson â'i luniwr,darn o lestr yn erbyn y crochenydd.A ddywed y clai wrth ei luniwr, ‘Beth wnei di?’neu, ‘Nid oes graen ar dy waith’?

10. Gwae'r sawl sy'n dweud wrth dad, ‘Beth genhedli di?’neu wrth wraig, ‘Ar beth yr esgori?’ ”

11. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD,Sanct Israel a'i luniwr:“A ydych yn fy holi i am fy mhlant,ac yn gorchymyn imi am waith fy nwylo?

12. Myfi a wnaeth y ddaear,a chreu pobl arni;fy llaw i a estynnodd y nefoedd,a threfnu ei holl lu.

13. Myfi a gododd Cyrus i fuddugoliaeth,ac unioni ei holl lwybrau.Ef fydd yn codi fy ninas,ac yn gollwng fy nghaethion yn rhydd,ond nid am bris nac am wobr,”medd ARGLWYDD y Lluoedd.

14. Dyma a ddywed yr ARGLWYDD:“Bydd llafurwyr yr Aifft, masnachwyr Ethiopia a'r Sabeaid talyn croesi atat ac yn eiddo i ti;dônt ar dy ôl mewn cadwyni,ymgrymant i ti a chyffesu,‘Yn sicr y mae Duw yn eich plith,ac nid oes neb ond ef yn Dduw.’ ”

15. Yn wir, Duw cuddiedig wyt ti,Dduw Israel, y Gwaredydd.

16. Cywilyddir a Gwaradwyddir hwy i gyd;â'r seiri delwau oll yn waradwydd,

17. ond gwaredir Israel gan yr ARGLWYDDâ gwaredigaeth dragwyddol;ni'ch cywilyddir ac ni'ch gwaradwyddirbyth bythoedd.

18. Dyma a ddywed yr ARGLWYDD,creawdwr y nefoedd, yr un sy'n Dduw,lluniwr y ddaear a'i gwneuthurwr, yr un a'i sefydlodd,yr un a'i creodd, nid i fod yn afluniaidd,ond a'i ffurfiodd i'w phreswylio:“Myfi yw'r ARGLWYDD, ac nid oes arall;

19. nid mewn dirgelwch y lleferais,nid mewn man tywyll o'r ddaear;ni ddywedais wrth feibion Jacob,‘Ceisiwch fi mewn anhrefn.’Myfi, yr ARGLWYDD, yw'r un sy'n llefaru cyfiawnder,ac yn mynegi uniondeb.

20. “Ymgasglwch, dewch yma,nesewch gyda'ch gilydd,rai dihangol y cenhedloedd.Nid oes gwybodaeth gan gludwyr delwau prena'r rhai sy'n gweddïo ar dduw na all eu hachub.

21. Dewch ymlaen, cyflwynwch eich achos;boed iddynt gymryd cyngor ynghyd.Pwy a fynegodd hyn o'r blaen?Pwy a'i dywedodd o'r dechrau?Onid myfi, yr ARGLWYDD?Nid oes Duw ond myfi, Duw cyfiawn, a gwaredydd.Nid oes neb ond myfi.

22. Chwi, holl gyrrau'r ddaear, edrychwch ataf i'ch gwaredu,canys myfi wyf Dduw, ac nid oes arall.

23. Ar fy llw y tyngais;gwir a ddaeth allan o'm genau,gair na ddychwel:i mi bydd pob glin yn plygua phob tafod yn tyngu.

24. Fe ddywedir amdanaf,‘Yn ddiau, yn yr ARGLWYDD y mae cyfiawnder a nerth’.”Bydd pob un a ddigiodd wrthoyn dod ato ef mewn cywilydd.

25. Cyfiawnheir holl deulu Israel,ac ymhyfrydant yn yr ARGLWYDD.