Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 25:4-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Canys buost yn noddfa i'r tlawd,yn noddfa i'r anghenus yn ei gyfyngder,yn lloches rhag y storm ac yn gysgod rhag y gwres.Oherwydd y mae anadl y rhai trahaus fel gwynt oer,

5. neu fel gwres ar dir sych.Rwyt yn tawelu twrf y dieithriaid;fel y bydd gwres yn oeri dan gwmwl,felly y bydd cân y trahaus yn distewi.

6. Ar y mynydd hwn bydd ARGLWYDD y Lluoeddyn paratoi gwledd o basgedigion i'r bobl i gyd,gwledd o win wedi aeddfedu,o basgedigion breision a hen win wedi ei hidlo'n lân.

7. Ac ar y mynydd hwn fe ddifa'r gorchudda daenwyd dros yr holl bobloedd,llen galar sy'n cuddio pob cenedl;

8. llyncir angau am byth,a bydd yr ARGLWYDD Dduw yn sychu ymaith ddagrau oddi ar bob wyneb,ac yn symud ymaith warth ei bobl o'r holl ddaear.Yr ARGLWYDD a lefarodd hyn.

9. Yn y dydd hwnnw fe ddywedir,“Wele, dyma ein Duw ni.Buom yn disgwyl amdano i'n gwaredu;dyma'r ARGLWYDD y buom yn disgwyl amdano,gorfoleddwn a llawenychwn yn ei iachawdwriaeth.”

10. Oherwydd bydd llaw yr ARGLWYDD yn gorffwys dros y mynydd hwn,ond fe sethrir Moab dan ei draedfel sathru gwellt mewn tomen;

11. bydd Moab yn estyn ei dwylo allan yn ei chanol,fel nofiwr yn eu hestyn i nofio,ond fe suddir ei balchder gyda phob symudiad dwylo.

12. Bydd yr ARGLWYDD yn bwrw'r amddiffynfa i lawr,ac yn gwneud eich muriau yn gydwastad â'r pridd,a'u taflu i lawr i'r llwch.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 25