Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66

Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Moliant i Dduw

1. O ARGLWYDD, fy Nuw ydwyt ti;mawrygaf di a chlodforaf dy enwam iti gyflawni bwriad rhyfeddol,sy'n sicr a chadarn ers oesoedd.

2. Gwnaethost ddinas yn bentwr,a thref gaerog yn garnedd;ysgubwyd ymaith y plasty o'r ddinas,ac nis adeiledir byth eto.

3. Am hynny y mae pobl nerthol yn dy ogoneddu,a dinasoedd cenhedloedd trahaus yn dy barchu.

4. Canys buost yn noddfa i'r tlawd,yn noddfa i'r anghenus yn ei gyfyngder,yn lloches rhag y storm ac yn gysgod rhag y gwres.Oherwydd y mae anadl y rhai trahaus fel gwynt oer,

5. neu fel gwres ar dir sych.Rwyt yn tawelu twrf y dieithriaid;fel y bydd gwres yn oeri dan gwmwl,felly y bydd cân y trahaus yn distewi.

Gwledd ar Fynydd Seion

6. Ar y mynydd hwn bydd ARGLWYDD y Lluoeddyn paratoi gwledd o basgedigion i'r bobl i gyd,gwledd o win wedi aeddfedu,o basgedigion breision a hen win wedi ei hidlo'n lân.

7. Ac ar y mynydd hwn fe ddifa'r gorchudda daenwyd dros yr holl bobloedd,llen galar sy'n cuddio pob cenedl;

8. llyncir angau am byth,a bydd yr ARGLWYDD Dduw yn sychu ymaith ddagrau oddi ar bob wyneb,ac yn symud ymaith warth ei bobl o'r holl ddaear.Yr ARGLWYDD a lefarodd hyn.

9. Yn y dydd hwnnw fe ddywedir,“Wele, dyma ein Duw ni.Buom yn disgwyl amdano i'n gwaredu;dyma'r ARGLWYDD y buom yn disgwyl amdano,gorfoleddwn a llawenychwn yn ei iachawdwriaeth.”

10. Oherwydd bydd llaw yr ARGLWYDD yn gorffwys dros y mynydd hwn,ond fe sethrir Moab dan ei draedfel sathru gwellt mewn tomen;

11. bydd Moab yn estyn ei dwylo allan yn ei chanol,fel nofiwr yn eu hestyn i nofio,ond fe suddir ei balchder gyda phob symudiad dwylo.

12. Bydd yr ARGLWYDD yn bwrw'r amddiffynfa i lawr,ac yn gwneud eich muriau yn gydwastad â'r pridd,a'u taflu i lawr i'r llwch.