8. Tra oeddent yn lladd, a minnau wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun, syrthiais ar fy wyneb, a gwaeddais a dweud, “O Arglwydd DDUW, a ddistrywi di holl weddill Israel wrth dywallt dy lid ar Jerwsalem?”
9. Atebodd fi, “Y mae drygioni tŷ Israel a Jwda yn hynod fawr; y mae'r wlad yn llawn o dywallt gwaed, a'r ddinas yn llawn anghyfiawnder, am eu bod yn dweud, ‘Gadawodd yr ARGLWYDD y wlad; nid yw'r ARGLWYDD yn gweld.’
10. Nid wyf fi am dosturio na thrugarhau; talaf iddynt am eu ffyrdd.”
11. A dyna'r dyn oedd wedi ei wisgo â lliain, ac offer ysgrifennu wrth ei wasg, yn dod â gair yn ôl a dweud, “Yr wyf wedi gwneud fel y gorchmynnaist.”