Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 8:3-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Estynnodd allan yr hyn a edrychai fel llaw, a'm cymryd gerfydd gwallt fy mhen. Cododd yr ysbryd fi rhwng daear a nefoedd, a mynd â mi mewn gweledigaethau Duw i Jerwsalem, at ddrws porth y gogledd i'r cyntedd mewnol, lle safai delw eiddigedd, sy'n achosi eiddigedd.

4. Ac yno yr oedd gogoniant Duw Israel, fel yn y weledigaeth a gefais yn y gwastadedd.

5. Yna dywedodd wrthyf, “Fab dyn, cod dy olygon i gyfeiriad y gogledd.” Codais fy ngolygon i gyfeiriad y gogledd, a gwelais yno, i'r gogledd o borth yr allor, yn y fynedfa, y ddelw hon o eiddigedd.

6. Dywedodd wrthyf, “Fab dyn, a weli di beth y maent yn ei wneud, y pethau cwbl ffiaidd y mae tŷ Israel yn eu gwneud yma, i'm pellhau oddi wrth fy nghysegr? Ond fe gei weld eto bethau mwy ffiaidd.”

7. Yna aeth â mi at ddrws y cyntedd, ac wrth imi edrych gwelais dwll yn y mur.

8. Dywedodd wrthyf, “Fab dyn, cloddia i'r mur.” Cloddiais i'r mur, a gwelais ddrws yno.

9. Dywedodd wrthyf, “Dos i mewn, ac edrych ar y ffieidd-dra drygionus y maent yn ei wneud yno.”

10. Euthum i mewn, ac wrth imi edrych gwelais bob math o ymlusgiaid, anifeiliaid atgas, a holl eilunod tŷ Israel, wedi eu cerfio ym mhobman ar y mur.

11. Yr oedd deg a thrigain o henuriaid tŷ Israel yn sefyll o'u blaenau, a Jaasaneia fab Saffan yn sefyll yn eu canol; yr oedd thuser yn llaw pob un ohonynt, a chwmwl persawrus o arogldarth yn codi.

12. A dywedodd wrthyf, “A welaist ti, fab dyn, beth y mae henuriaid tŷ Israel yn ei wneud yn y tywyllwch, bob un ohonynt yn ystafell ei gerfddelw? Fe ddywedant, ‘Nid yw'r ARGLWYDD yn ein gweld; gadawodd yr ARGLWYDD y wlad.’ ”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 8