Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 43:1-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yna aeth â mi at y porth oedd yn wynebu tua'r dwyrain,

2. a gwelais ogoniant Duw Israel yn dod o'r dwyrain. Yr oedd ei lais fel sŵn llawer o ddyfroedd, ac yr oedd y ddaear yn disgleirio gan ei ogoniant.

3. Yr oedd y weledigaeth yn debyg i'r un a gefais pan ddaeth i ddinistrio'r ddinas, ac i'r un a gefais wrth afon Chebar; a syrthiais ar fy wyneb.

4. Fel yr oedd gogoniant yr ARGLWYDD yn dod i mewn i'r deml trwy'r porth oedd yn wynebu tua'r dwyrain,

5. cododd yr ysbryd fi a mynd â mi i'r cyntedd nesaf i mewn, ac yr oedd y deml yn llawn o ogoniant yr ARGLWYDD.

6. Fel yr oedd y dyn yn sefyll yn f'ymyl, clywais rywun yn siarad â mi o'r deml,

7. ac yn dweud wrthyf, “Fab dyn, dyma le fy ngorsedd, lle gwadnau fy nhraed, a'r lle y byddaf yn trigo ymhlith pobl Israel am byth. Ni fydd yr Israeliaid na'u brenhinoedd byth eto'n halogi fy enw sanctaidd trwy eu puteindra a'r delwau o'u brenhinoedd wedi iddynt farw.

8. Wrth iddynt osod eu rhiniog wrth ochr fy rhiniog i, a physt eu pyrth wrth ochr pyst fy mhyrth i, heb ddim ond mur yn ein gwahanu, bu iddynt halogi fy enw sanctaidd trwy eu ffieidd-dra; a dinistriais hwy yn fy nig.

9. Yn awr, bydded iddynt droi ymaith oddi wrthyf eu puteindra a'r delwau o'u brenhinoedd, ac fe drigaf yn eu plith am byth.

10. “Fab dyn, disgrifia'r deml i bobl Israel, er mwyn iddynt gywilyddio am eu camweddau. Bydded iddynt ystyried y cynllun,

11. ac os byddant yn cywilyddio am y cyfan a wnaethant, dangos iddynt batrwm y deml, ei chynllun, ei hagoriadau a'i mynedfeydd, a'i holl batrwm. Gwna iddynt wybod ei holl ddeddfau a'i holl gyfreithiau; ysgrifenna hwy yn eu gŵydd, er mwyn iddynt ddilyn ei phatrwm a chadw ei deddfau.

12. Dyma fydd cyfraith y deml: bydd yr holl diriogaeth oddi amgylch ar ben y mynydd yn gwbl sanctaidd. Dyna gyfraith y deml.

13. “Dyma fesuriadau'r allor mewn cufyddau hir, sef cufydd a dyrnfedd: bydd ei gwaelod yn gufydd o uchder ac yn gufydd o led, gyda chantel rhychwant o led o amgylch yr ymyl. A dyma fydd uchder yr allor:

14. o'r gwaelod ar y llawr hyd y silff isaf, bydd yn ddau gufydd, ac yn gufydd o led; o'r silff leiaf hyd y silff fwyaf bydd yn bedwar cufydd, ac yn gufydd o led.

15. Bydd aelwyd yr allor yn bedwar cufydd o uchder, a bydd pedwar corn yn codi i fyny oddi ar yr aelwyd.

16. Bydd aelwyd yr allor yn sgwâr, deuddeg cufydd o hyd a deuddeg cufydd o led.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 43