ac os byddant yn cywilyddio am y cyfan a wnaethant, dangos iddynt batrwm y deml, ei chynllun, ei hagoriadau a'i mynedfeydd, a'i holl batrwm. Gwna iddynt wybod ei holl ddeddfau a'i holl gyfreithiau; ysgrifenna hwy yn eu gŵydd, er mwyn iddynt ddilyn ei phatrwm a chadw ei deddfau.