Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 28:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

2. “Fab dyn, dywed wrth lywodraethwr Tyrus, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:Ym malchder dy galon fe ddywedaist,“Yr wyf yn dduw,ac yn eistedd ar orsedd y duwiauyng nghanol y môr.”Ond dyn wyt, ac nid duw,er iti dybio dy fod fel duw—

3. yn ddoethach yn wir na Daniel,heb yr un gyfrinach yn guddiedig oddi wrthyt.

4. Trwy dy ddoethineb a'th ddeall enillaist iti gyfoeth,a chael aur ac arian i'th ystordai.

5. Trwy dy fedr mewn masnach cynyddaist dy gyfoeth,ac aeth dy galon i ymfalchïo ynddo.’

6. “Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:‘Oherwydd iti dybio dy fod fel duw,

7. fe ddygaf estroniaid yn dy erbyn,y fwyaf didostur o'r cenhedloedd;tynnant eu cleddyfau yn erbyn gwychder dy ddoethineb,a thrywanu d'ogoniant.

8. Bwriant di i lawr i'r pwll,a byddi farw o'th glwyfauyn nyfnderoedd y môr.

9. A ddywedi, “Duw wyf fi,”yng ngŵydd y rhai sy'n dy ladd?Dyn wyt, ac nid duw,yn nwylo'r rhai sy'n dy drywanu.

10. Byddi'n profi marwolaeth y dienwaededigtrwy ddwylo estroniaid.Myfi a lefarodd,’ medd yr Arglwydd DDUW.”

11. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 28